Fe wnaethon ni barhau i wneud cynnydd da wrth gyflawni Strategaeth 2022–27 yn ystod blwyddyn adrodd 2023-24 – mae’r prif uchafbwyntiau wedi’u cyflwyno dros y tudalennau nesaf.
Er gwaethaf heriau amrywiol, rydyn ni’n ddiolchgar i staff S4C ac i bartneriaid allanol am eu hymrwymiad parhaus wrth i ni esblygu cynnig S4C, gan ymateb i’r galw ac i ddisgwyliadau ein cynulleidfa wrth i’r rheini newid o hyd.
Rydyn ni’n ddiolchgar i’r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) am y setliad ychwanegol o £7.5m a ddyrannwyd i S4C o Ffi’r Drwydded ers mis Ebrill 2022, ac mae hynny wedi ein helpu ar ein siwrnai i gyflawni ein Strategaeth.