Croeso

Mae S4C yn gwasanaethu’r gynulleidfa gyda chynnwys sydd yn diddanu, yn cyffroi ac yn adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth.

Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mae gennym ddyletswydd i greu’r platfform a’r ecosystem i sbarduno’r diwydiannau creadigol yng Nghymru i greu cynnwys uchelgeisiol ac unigryw sy’n apelio at bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol. Nod S4C yw bod yn gyrchfan ar gyfer cynnwys Cymraeg creadigol, gafaelgar a deniadol sydd ar gael i’w fwynhau ar amryw o lwyfannau yng Nghymru a thu hwnt.