Sicrhau gwerth i’r gynulleidfa

Mae S4C yn anelu i sicrhau fod y ganran uchaf posibl o incwm cyhoeddus S4C yn cael ei wario ar gynnwys sy’n gymharus o ran ansawdd gyda chynnwys rhaglenni rhwydwaith eraill y DU, tra’n sicrhau ar yr un pryd fod rhaglenni yn cael eu cynhyrchu yn y modd fwyaf effeithlon a bod cost gorbenion S4C yn parhau yn isel.

Gwerth am arian yw’r berthynas rhwng cost a pherfformiad S4C fel gwasanaeth ac fel sefydliad. Ar gyfer darlledwr cyhoeddus, mae hyn yn golygu darparu gwasanaeth cynhwysfawr o safon uchel ar deledu a chyfryngau digidol sy’n cael ei ddefnyddio a’i werthfawrogi gan y gynulleidfa, gan wneud hynny mewn modd effeithlon o ran y defnydd o adnoddau ariannol.

Blaenoriaeth gyntaf S4C yw darparu gwasanaethau o ansawdd uchel, ar deledu ac ar lwyfannau digidol perthnasol, sy’n cwrdd ag anghenion ei chynulleidfa. Mae hefyd yn bwysig i sicrhau fod y buddsoddiad yng ngwasanaethau S4C yn rhoi gwerth priodol am arian. Mae sicrhau bod y ganran uchaf posibl o incwm cyhoeddus S4C yn cael ei wario ar raglenni a chynnwys felly’n amcan bwysig.

Elfen arall o hyn yw sicrhau fod costau rhedeg sefydliad S4C yn parhau i fod yn ganran fechan o wariant S4C.

Mae S4C wedi sicrhau arbedion effeithlonrwydd ac ariannol dros y blynyddoedd diweddar gyda rhesymoli staffio, ystadau a thechnolegol. O ganlyniad, dim ond 3% o gyfanswm gwariant S4C yw gweinyddiaeth a gorbenion – ffigwr sydd wedi parhau i ostwng ers 2018–19 – gyda gweddill y gwariant yn cefnogi creu a dosbarthu cynnwys.

 

Blaenoriaethu gwariant ar raglenni a chynnwys – dosraniad gwariant S4C

Buddsoddir y rhan fwyaf o gyllid cyhoeddus S4C mewn rhaglenni a chynnwys.

Mae dyraniad gwariant Cronfa Gyhoeddus S4C yn ystod 2022–23 yn dangos fod mwyafrif gwariant S4C yn parhau i gael ei fuddsoddi’n uniongyrchol yn ei rhaglenni a’i chynnwys, sef buddsoddiad yn y ddarpariaeth ar gyfer y gynulleidfa a buddsoddiad yn y sector gynhyrchu yng Nghymru.

 

 

S4C yw un o’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus mwyaf cost-effeithlon yn y DU

Trwy weithio’n agos gyda chynhyrchwyr i reoli cost cynhyrchu pob awr o gynnwys, mae gan S4C record falch o gomisiynu rhaglenni cost-effeithiol ac mae S4C wedi llwyddo i warchod nifer yr oriau a ddarlledwyd, yn ogystal ag ystod, amrywiaeth ac ansawdd y gwasanaeth.

S4C yw un o’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus mwyaf cost-effeithlon yn y DU gyda chost yr awr yn sylweddol is na darlledwyr eraill, gan gomisiynu ar ffracsiwn (25 – 33% yn nodweddiadol) o’r cyfraddau genre tebyg a ddefnyddir gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill.

Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod cost gwneud rhaglenni yn cynyddu, gyda gwariant byd-eang ar rai genres – yn enwedig drama wedi’i sgriptio – yn codi i lefelau digynsail. Mae hyn yn rhoi mwy o bwysau ar gyllidebau’r dyfodol wrth i ni gystadlu am dalent ar a thu ôl i’r sgrin. Mae tueddiadau diweddar yn y diwydiannau creadigol hefyd wedi cael effeithiau chwyddiant ar gostau cynhyrchu.

Rydym yn parhau i weithio gyda TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru) a chwmnïoedd cynhyrchu unigol i sicrhau’r gwerth gorau i gynulleidfaoedd o’n cyllid cyhoeddus.

 

Cost yr awr – rhaglenni a gomisiynwyd gan S4C (ag eithrio cynnwys digidol-yn-unig a digidol-yn-gyntaf)

 

 

Mae effaith Covid-19 ar gostau cynhyrchu, yn ogystal â’r newid i statws TAW S4C, wedi arwain at ostyngiad neu gynnydd sylweddol mewn cost yr awr rhai genres dros y blynyddoedd diwethaf – yn enwedig drama, celfyddydau, a chrefydd.

 

Cost yr awr – cynnwys digidol-yn-unig a digidol-yn-gyntaf a gomisiynwyd gan S4C (ag eithrio cynnwys cyfryngau cymdeithasol)