Cyflwyniad y Cadeirydd

Rhodri Williams

Ar ran Bwrdd Unedol S4C, rwy’n falch iawn i gyflwyno Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon S4C ar gyfer y flwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2023.

Yn ystod y flwyddyn adrodd, fe nododd S4C 40 mlynedd ers ei lansiad ym mis Tachwedd 1982. Mae llawer wedi newid dros y ddeugain mlynedd diwethaf, ac mae’r heriau sy’n wynebu S4C yn dra gwahanol heddiw yn y byd digidol. Mae S4C nawr yn bodoli mewn marchnad gystadleuol tu hwnt, gyda chynnwys o bob cwr o’r byd yn ymladd am sylw’r gwylwyr.

Rhaid i S4C felly ymateb yn gadarnhaol i’r amgylchedd presennol a manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael i ni. Rhaid i ni fynd at gynulleidfaoedd erbyn hyn a hawlio eu sylw, yn hytrach na disgwyl iddynt ddod atom ni.

Wrth baratoi i ddathlu pen-blwydd y sianel, yn ystod Mawrth 2022 fe gymeradwyodd y Bwrdd blaenoriaethau strategol newydd S4C ar gyfer y cyfnod o Ebrill 2022 ymlaen. Rwyf i a fy nghyd aelodau ar y Bwrdd Unedol yn ddiolchgar i staff S4C a’r sector gynhyrchu am eu cefnogaeth i’r blaenoriaethau newydd, a’u hymroddiad i adnewyddu S4C fel ei bod yn parhau’n berthnasol ar gyfer y cyfnod nesaf yn ei hanes.

Mae’n blaenoriaethau strategol newydd yn gosod cyfeiriad clir ar gyfer trawsnewid S4C o fod yn sianel linol i gyhoeddwr digidol. Mae’r rhesymeg dros gymryd y trywydd hwn yn ymddangos mewn man arall oddi fewn i’r Adroddiad Blynyddol hwn.

Wrth werthuso ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, mae’n dda gweld bod y cyfeiriad newydd eisoes yn dwyn ffrwyth.

Mae cyrhaeddiad cynnwys S4C wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf – yn enwedig ymysg gwylwyr iau na fyddent yn draddodiadol yn gwylio’r sianel linol. Mae hyn i’w groesawu, ac mae’n hollbwysig ein bod yn parhau i gomisiynu cynnwys apelgar i ddal i ddenu a chadw’r gynulleidfa hon.

Ein defnydd o amrywiaeth ehangach o lwyfannau sydd wedi cyfrannu’n rhannol at gyrraedd y gynulleidfa iau. Mae gwylio cynnwys S4C drwy lwyfannau ffrydio Clic ac iPlayer yn dod yn fwyfwy poblogaidd, ac mae niferoedd cynyddol yn dod i gyswllt gyda’n cynnwys trwy ein presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol.


Mae’n gyfnod cyffrous wrth i S4C drawsnewid yn gyhoeddwr gwasanaeth cyhoeddus yn y byd digidol. Proses barhaus fydd hon, gydag S4C yn dal i drawsnewid wrth i ddisgwyliadau ein cynulleidfaoedd ddatblygu ymhellach dros y blynyddoedd.

Mae’r ffaith hyn i’w gweld wrth i’n cynnwys gael ail fywyd ar ôl dod i sylw gwahanol gynulleidfaoedd. Mae cyfres fel ‘Pen Petrol’ yn enghraifft o hyn – rhyddhawyd y gyfres yn ddigidol yn unig yn wreiddiol, ond yn sgil ei phoblogrwydd mae bellach wedi ei chyhoeddi ar ystod ehangach o lwyfannau, gan gynnwys y gwasanaeth llinol.

Yn yr un modd, mae’r sylw rhyngwladol i’n dramâu wedi iddynt ymddangos ar ein gwasanaeth llinol yn arwain at gynnydd yn y niferoedd sy’n eu gwylio ar alw ar Clic ac iPlayer. Mae’r ddrama ‘Dal y Mellt’ yn enghraifft dda, gyda chynnydd yn niferoedd yn gwylio ar alw yn dilyn y cyhoeddiad y byddai’r ddrama yn cael ei dosbarthu trwy Netflix yn y DU.

Mae felly’n hanfodol ein bod yn buddsoddi yn ein presenoldeb ar y llwyfannau hyn, a llwyfannau newydd i’r dyfodol, er mwyn i gynnwys S4C gyrraedd y gwylwyr ar y llwyfan o’u dewis a chynnig y profiad gorau.

Dros y misoedd diwethaf, mae S4C wedi gweithio i sicrhau bod ap Clic ar gael ar ystod ehangach o lwyfannau. Yn ogystal, lansiwyd yr ap â gwedd fwy modern i gyd-fynd â phen-blwydd S4C. Mae’r dyluniad newydd eisoes ar gael ar lwyfannau yn cynnwys iOS, YouView, ac Amazon Fire Stick; ac fe fydd yn cyrraedd llwyfannau pellach dros y misoedd nesaf.

Mae’r Bwrdd Unedol ei hun wedi adolygu ei drefniadau a’i strwythurau llywodraethu er mwyn sicrhau ein bod yn ddigon ystwyth i gefnogi cyflawni’r amcanion strategol. Rydym wedi adolygu cyfansoddiad a chylchoedd gorchwyl ein pwyllgorau, ac mae’r trefniadau newydd wedi gweithio’n dda dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae aelodaeth y Bwrdd Unedol wedi aros yn lled sefydlog yn ystod y flwyddyn adrodd. Daeth cyfnod Anita George fel aelod anweithredol o’r Bwrdd i ben ddechrau Gorffennaf 2022, ac fe benodwyd Suzy Davies fel aelod anweithredol newydd ddechrau Awst 2022. O ran yr aelodau gweithredol, daeth Llinos Griffin-Williams yn aelod o’r Bwrdd wrth iddi ymuno ag S4C fel Prif Swyddog Cynnwys ddechrau’r flwyddyn adrodd.

Adolygwyd hefyd drefniadau llywodraethu’r gweithgareddau masnachol er mwyn hwyluso cyflawni’r strategaeth fasnachol newydd a gytunwyd yn ystod 2022–23 i gyd-fynd â’r blaenoriaethau strategol. Ceir amlinelliad o’r strategaeth fasnachol yn yr Adroddiad Blynyddol hwn, a byddwn yn parhau i fireinio prosesau llywodraethu’r gweithgareddau masnachol wrth roi’r strategaeth newydd ar waith.

Mae’r gwaith o gyflawni’r amcanion strategol wedi ei hwyluso’n sylweddol gan y sicrwydd ariannol sydd gan S4C ers Ebrill 2022. Yn wir, mae’r sicrwydd o gyllid trwy Ffi’r Drwydded wedi ein caniatáu i fod yn fwy uchelgeisiol.

Mae S4C yn ddiolchgar iawn yn hyn o beth i’r Adran dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) fel ag yr oedd, ac i’r Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd, am gadarnhau ym mis Ionawr 2022 y byddai S4C yn derbyn £7.5m o gyllid ychwanegol trwy Ffi’r Drwydded o Ebrill 2022 ymlaen. Mae’r cyllid ychwanegol hwn yn ein galluogi i fuddsoddi yn ein blaenoriaethau strategol, gan gynnwys gweddnewid ap Clic ac ehangu argaeledd yr ap ar wahanol ddyfeisiadau.

Dros y misoedd nesaf, rydym yn edrych ymlaen at gydweithio ymhellach gyda swyddogion y DCMS ar y Mesur Cyfryngau arfaethedig. Gobeithiwn yn fawr y bydd y Mesur yn sicrhau amlygrwydd ac argaeledd gwasanaethau S4C, er mwyn hwyluso cyrraedd y gwylwyr.

Bydd y mesur Cyfryngau arfaethedig hefyd yn caniatáu cwblhau gweddill yr argymhellion a wnaed gan y diweddar Euryn Ogwen Williams yn ei Adolygiad Annibynnol o S4C – Creu S4C ar gyfer y dyfodol – a baratowyd ar gyfer y DCMS ym mis Mawrth 2018. Mae’r argymhellion y bydd y Mesur Cyfryngau yn caniatáu eu cyflawni’n llawn yn cynnwys:

  • Diweddaru cylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus S4C i gynnwys gwasanaethau digidol ac ar-lein, a chael gwared ar y cyfyngiadau darlledu daearyddol presennol;
  • Diwygio’r gofynion cymeradwyo presennol i roi mwy o ryddid i S4C i fuddsoddi a chynhyrchu refeniw masnachol; a
  • Disodli Awdurdod S4C gyda Bwrdd Unedol newydd sy’n cynnwys cyfarwyddwyr gweithredol a chyfarwyddwyr anweithredol (er, mae gennym ganiatâd yr Ysgrifennydd Gwladol yn barod i weithredu fel Bwrdd Unedol cysgodol ar sail weinyddol).

Er y sicrwydd ariannol trwy Ffi’r Drwydded, mae’r cyllid mae S4C bellach yn ei dderbyn yn sefydlog am y ddwy flynedd gyntaf, cyn cynyddu yn unol â chwyddiant dros y blynyddoedd wedyn. Mae hyn wedi creu sefyllfa heriol i ni yn wyneb y lefelau chwyddiant diweddar. Mae’r Bwrdd felly wedi cymryd camau i leihau costau mewnol cymaint â phosib er mwyn diogelu’r gyllideb ar gyfer comisiynu cynnwys. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i’n partneriaid yn y sector am eu parodrwydd i gydweithio gyda ni, a gyda’i gilydd, er mwyn sicrhau’r gwerth gorau am arian i’n cynulleidfaoedd.

Mae’n gyfnod cyffrous wrth i S4C drawsnewid yn gyhoeddwr gwasanaeth cyhoeddus yn y byd digidol. Proses barhaus fydd hon, gydag S4C yn dal i drawsnewid wrth i ddisgwyliadau ein cynulleidfaoedd ddatblygu ymhellach dros y blynyddoedd.

Rwyf i a’r Bwrdd yn ddiolchgar iawn i staff S4C, ein partneriaid yn y sector, a phawb arall am eu cefnogaeth ar y daith wrth i S4C edrych ymlaen at y 40 mlynedd nesaf.