Adroddiad y Prif Weithredwr

Siân Doyle

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn amser arbennig i fod yn rhan o dîm S4C. Bu’n flwyddyn gyffrous wrth i ni ddechrau gweithredu Strategaeth 2022–27. Rydym yn ddiolchgar i’r Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) am y setliad ychwanegol o £7.5m o Ffi’r Drwydded ers Ebrill 2022, sydd wedi ein galluogi ni i ddatblygu’r strategaeth newydd. Yn sgil hyn, mae gennym raglen drawsnewid i sicrhau bod y gwasanaeth yn cwrdd ag anghenion y gynulleidfa – yng Nghymru a thu hwnt – fel bod S4C yn parhau’n berthnasol ac yn amlwg yn y byd aml-lwyfan.

Ac wrth gwrs, roedd hi hefyd yn flwyddyn o ddathlu i S4C – pen-blwydd y gwasanaeth yn 40, ac ein rôl fel cartref pêl-droed Cymru wrth i ni ddilyn a rhannu pob cam o daith tîm cenedlaethol y dynion i Gwpan y Byd yn Qatar.

Mae’n rhaid diolch i staff S4C am eu hymrwymiad yn ystod blwyddyn arbennig o brysur, ac i’r sector am ymateb mor gadarnhaol i Strategaeth 2022–27, wrth i ni esblygu’r gwasanaeth i gadw S4C a’r iaith Gymraeg ar flaen y gad ar gyfer y 40 mlynedd nesaf.