Creu sŵn gyda’n cynnwys

Mae cynnwys beiddgar sy’n bachu sylw’r gynulleidfa yn hanfodol, ac roedd nodi 40 mlynedd ers sefydlu’r sianel yn foment i ddathlu ond hefyd myfyrio ar 40 mlynedd nesaf y gwasanaeth.

I nodi’r achlysur, comisiynwyd Y Sŵn (Joio), ffilm yn adrodd hanes y frwydr i sefydlu S4C. Cafodd miloedd y cyfle i fwynhau Y Sŵn mewn sinemâu ar draws y DU cyn i S4C ei darlledu – trefn yr ydym yn bwriadau ei hefelychu gyda Sinema Cymru. Hon yw ein partneriaeth ffilm newydd gyda Cymru Greadigol â chefnogaeth Ffilm Cymru, fydd yn creu ffilm Gymraeg bob blwyddyn ac yn rhoi Cymru ar y sgrîn fawr mewn gwyliau rhyngwladol. I gefnogi’r cynllun, lansiwyd O’r Sgript i’r Sinema, cwrs arloesol gyda’r National Film and TV School Cymru, i feithrin to newydd o awduron fydd yn gallu ysgrifennu’r ffilmiau newydd hyn gyda’r nod uchelgeisiol o ddilyn ôl troed TG4 a llwyddiannau An Cailín Cúin eleni.

Cawsom flwyddyn nodedig gyda drama, gan gynnwys y ddrama Gymraeg gyntaf ar Netflix wedi i’r ffrydiwr brynu addasiad Iwan ‘Iwcs’ Roberts o’i nofel Dal y Mellt ar gyfer S4C (Vox / Abacus). Roeddem yn falch o weld Y Golau (Triongl / Duchess Productions), ein cyd-gynhyrchiad drama cyntaf gyda Channel 4 yn derbyn clod mawr cyn gwerthu’n rhyngwladol hefyd. Hon oedd y ddrama a wyliwyd fwyaf ar Channel 4 yn ystod y cyfnod, gan ddangos bod gweledigaeth S4C o straeon am ac o Gymru yn teithio ac yn gafael mewn cynulleidfaoedd ehangach. Dyma hefyd oedd y cynhyrchiad cyntaf i’r actor Joanna Scanlan ei wneud yn Gymraeg yn dilyn ei hymddangosiad ar ein fformat dysgu Cymraeg llwyddiannus ni Iaith ar Daith (Boom Cymru) yn 2021, sy’n dangos sut y gallwn ni ddenu talent adnabyddus at S4C a chefnogi siaradwyr newydd.

Nid mewn drama yn unig y cafwyd llwyddiant. . Daeth S4C a’n partneriaid cynhyrchu ag anrhydeddau a chlod yn ôl i Gymru hefyd drwy wobrau sylweddol – Gwobr Broadcast i Drych: Fi Rhyw ac Anabledd (Wildflame); a Gwobr Llais Newydd i’n cyfres Hansh, Tisio Fforc? (Afanti).

Rydym hefyd yn arbennig o falch eleni o weld ein brandiau rhagorol yn parhau i ddiddanu, gan gynnwys Am Dro (Cardiff Productions), Priodas Pum Mil (Boom Cymru), a Cân i Gymru (Afanti).

Mae’n dda gweld fformatau S4C hefyd yn teithio, gyda nifer wedi eu gwerthu a’u haddasu yn llwyddiannus yn ystod 2022–23, fel Gwesty Aduniad (Darlun) sydd bellach ar y BBC fel Reunion Hotel. Wrth i ni ddenu cynulleidfaoedd iau dros y cyfnod, mae wedi bod yn wych gweld y brand Hansh yn mynd o nerth i nerth.

Parhaodd ein cynnwys plant i ddenu cynulleidfaoedd cyson ar draws pob platfform. Fe wnaeth Cyw ddeor Cywion Bach i gefnogi siaradwyr newydd a throsglwyddiad iaith gwylwyr iau a’u teuluoedd, a gwelsom lwyddiant dramâu newydd fel Y Goleudy (Boom Cymru) ac Itopia (Boom Cymru) i blant hŷn, drwy gefnogaeth cronfa cynulleidfaoedd ifanc Llywodraeth y DU (Young Audiences Content Fund), hefyd yn gwneud eu marc ac yn ennill enwebiadau a gwobrau.