Strategaeth 2022–27

Ar 17 Mawrth 2022, cymeradwyodd y Bwrdd Unedol strategaeth newydd S4C ar gyfer y pum mlynedd o 01 Ebrill 2022. Daw’r strategaeth newydd yn sgil misoedd
o drafod ar lefel Bwrdd Unedol a Thîm Rheoli, ac ymgynghoriad mewnol.

Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod o newid mawr i S4C, gyda’r pencadlys yn symud i Gaerfyrddin a chydleoli gwasanaethau darlledu technegol S4C gyda rhai BBC Cymru yn Sgwâr Canolog, Caerdydd. Yn ogystal, ac yn sgil Adolygiad Euryn Ogwen Williams yn 2018, rydym wedi dechrau datblygu ein gwasanaeth digidol gan osod sylfaen gadarn i’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Ond, rhaid i’n model busnes barhau i addasu ac esblygu dros y blynyddoedd i ddod.

Ers 01 Ebrill 2022, daw holl arian cyhoeddus S4C drwy Ffi’r Drwydded. Mae’r sicrwydd cyllidebol hwn ar gyfer y cyfnod tan ddiwedd Mawrth 2028 – ynghyd â’r £7.5m ychwanegol y flwyddyn a gyhoeddwyd i S4C gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon fis Ionawr 2022 – yn cynnig cyfle i ni drawsnewid S4C at y dyfodol.

Mae ein strategaeth newydd yn seiliedig ar esblygu S4C o fod yn Ddarlledwr Gwasanaeth Cyhoeddus traddodiadol i Cyhoeddwr Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus sy’n berthnasol yn y dirwedd gyfryngau rhyngwladol modern.

Mae’n gofyn i S4C drawsnewid, gan symud o ystyriaethau ‘llinol neu ddigidol’ er mwyn comisiynu cynnwys i’w ddosbarthu ar draws toreth o lwyfannau. Yn hynny o beth, mae’n gynllun beiddgar sy’n herio’r modelau traddodiadol mae S4C a darlledwyr eraill wedi eu dilyn ers degawdau.

Byddwn felly yn ail-flaenoriaethu ein gwariant tuag at gynnwys mwy aml-lwyfan, gan gael y gwerth gorau posib am arian i’n cynulleidfa ar draws amryw o lwyfannau, gan gynnwys ein sianel linol bresennol.