Ein Strategaeth Newydd

Strategaeth 2022–27

Ein pwrpas
yw sicrhau fod y Gymraeg yn rhan bwysig o fywyd pawb yng Nghymru drwy ddarparu cynnwys beiddgar ac arloesol sy’n dathlu’n diwylliant cyfoes.

Ein gweledigaeth
yw Cymru lle mae’r iaith yn perthyn i ni gyd, gydag S4C yn uno’r genedl trwy ein cynnwys.

Wrth i ni fynd ati i weithredu ein strategaeth newydd, byddwn yn rhoi sylw priodol i’n gwerthoedd fel sefydliad, sef:

Amrywiaeth   Ymwneud   Arloesedd   Uchelgais

Dod i nabod, a chreu perthynas, gyda’n cynulleidfa

  • Defnyddio data i sicrhau fod y gynulleidfa’n sail i’n holl benderfyniadau.
  • Deall ein cynulleidfa a phersonoli’u profiadau.
  • Creu dashfwrdd clir i fesur ein gwerth a’n perfformiad.
Er mwyn gwireddu’r amcanion hyn, byddwn yn:
  • Diffinio sut rydym yn mesur perfformiad, gan osod targedau clir y gallwn eu mesur mewn modd dibynadwy;
  • Creu dashfwrdd a sefydlu rhaglen ‘gwrando ar ein cynulleidfa’; a
  • Defnyddio data i bersonoleiddio profiadau, a chreu perthynas gyda’n cynulleidfa.

Creu sŵn gyda chynnwys beiddgar

  • Deall ein cynulleidfa a chynhyrchu cynnwys sy’n creu’r sgwrs ac yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol.
  • Ymestyn ein cyrhaeddiad a thyfu effaith ein gwasanaeth o fewn cymunedau.
  • Blaenoriaethu drama, chwaraeon a phlant.
Er mwyn gwireddu’r amcanion hyn, byddwn yn:
  • Dilyn y model: Adnabod y gynulleidfa > Comisiynu cynnwys sy’n apelio at y gynulleidfa > Cyhoeddi ar y llwyfan mwyaf addas i gyrraedd y gynulleidfa;
  • Diffinio ein blaenoriaethau cynnwys ar sail anghenion y gynulleidfa;
  • Datblygu strategaethau cynnwys hir-dymor – ar gyfer genres drama, chwaraeon, a phlant; ac yn
  • Creu cynllun ar gyfer partneriaethau, cyd-gynyrchiadau a datblygu marchnadoedd rhyngwladol.

“Darparu dy gynnwys di ar dy lwyfan di”

  • Sicrhau amlygrwydd ac argaeledd ar draws y prif lwyfannau gwylio.
  • Amserlennu ein cynnwys ar draws pob llwyfan, yn hytrach na bod yn ‘llinol-yn-gyntaf’.
  • Meithrin perthynas fasnachol gyda’n partneriaid.
  • Datblygu talent i gyfleu cynnwys digidol.
  • Sicrhau amlygrwydd i’n cymunedau amrywiol ar, ac oddi ar, y sgrin.
Er mwyn gwireddu’r amcanion hyn, byddwn yn:
  • Amserlennu cyhoeddi cynnwys ar draws pob llwyfan;
  • Cynyddu argaeledd ac amlygrwydd ein cynnwys ar draws llwyfannau gwylio cyfoes;
  • Mireinio’n prosesau busnes mewnol i adlewyrchu’n strategaeth gyhoeddi newydd; a
  • Gweithio gyda’r sector i ddatblygu strategaeth hyfforddiant.

Sefydlu’n hunain fel cartref profiadau cenedlaethol Cymru

  • Perchnogi digwyddiadau cenedlaethol a chynnal y sgwrs o’u cwmpas; o gerddoriaeth i chwaraeon.
Er mwyn gwireddu’r amcan hwn, byddwn yn:
  • Cynllunio rhaglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau ar draws Cymru, gan sicrhau presenoldeb amlwg i S4C;
  • Datblygu ein defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol i greu sŵn, a chyfathrebu ein pwrpas; a
  • Lansio ein brand newydd.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd” – gweithio gydag eraill i gyrraedd y filiwn

  • Gweithio gyda’n partneriaid i gyrraedd y filiwn a dyblu defnydd, a sicrhau ein bod yn cael ein gweld fel partner amlwg yn cyfrannu at ffyniant y Gymraeg.
Er mwyn gwireddu’r amcan hwn, byddwn yn:
  • Creu strategaeth partneriaethau clir, i ddiffinio a ffurfioli ein perthynas gyda’n partneriaid; a
  • Chwarae rôl flaengar yn nhwf yr iaith Gymraeg, ac arwain y ffordd ymlaen.

Adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth

  • Sicrhau ein bod yn adlewyrchu cymunedau Cymru drwy osod targedau amrywiaeth clir, yn fewnol ac ar draws ein cynyrchiadau.
Er mwyn gwireddu’r amcan hwn, byddwn yn:
  • Gweithio gyda’r sector i sicrhau ein bod yn adlewyrchu ein cymunedau yn eu holl amrywiaeth; ac yn
  • Gosod targedau clir ar gyfer amrywiaeth yn ein cynnwys, a mesur ein perfformiad yn eu herbyn.

Creu gwerth trwy ein hadnoddau

  • Creu cynllun corfforaethol clir gydag amcanion penodol.
  • Canfod cyfleoedd masnachol i helpu ni wireddu gwir werth ein cynnyrch.
Er mwyn gwireddu’r amcanion hyn, byddwn yn:
  • Datblygu strategaeth fasnachol newydd;
  • Adnabod marchnadoedd amgen ar gyfer ein cynnwys;
  • Mireinio ein prosesau cyllid i adlewyrchu’n strategaeth aml-lwyfan newydd;
  • Diffinio ein ‘rhestr siopa’, ac amddiffyn ein hawliau; a
  • Mireinio’n prosesau caffael i adlewyrchu ein strategaeth.

Ysbrydoli a meithrin talent yng Nghymru

  • Cefnogi’n partneriaid yn y sector i ddatblygu talent newydd yng Nghymru, drwy bartneriaethau ar draws y sector creadigol.
Er mwyn gwireddu’r amcan hwn, byddwn yn:
  • Buddsoddi mewn adnoddau er mwyn ein galluogi i ddeall anghenion cwmnïau cynhyrchu, a’r sector yn ehangach; a
  • Sicrhau llwybr clir i dalent newydd, a datblygu ein sgiliau a’n gallu i gyflawni’n strategaeth.