Cynnwys 2023–24

Datganiad Polisi Rhaglenni 2023–24

Prif Swyddog Cynnwys S4C, Llinos Griffin-Williams, sy’n amlinellu blaenoriaethau cynnwys S4C ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Mae S4C yn trawsnewid

Mae S4C yn camu mewn i’w 40au yn hyderus, angerddol ac yn uchelgeisiol wrth i ni greu cynnwys beiddgar a phwerus sy’n cynrychioli Cymru gyfoes.

Yn rhoi llais i gymunedau ar draws Cymru a thu hwnt, byddwn yn adlewyrchu cenedl amrywiol gyda chynnwys cynhwysfawr a phoblogaidd sy’n croesawu siaradwyr Cymraeg hen a newydd – gan ysbrydoli pobl i glywed, gweld a siarad Cymraeg yng Nghymru, y DU a thu hwnt.

Bydd arlwy fywiog, gyffrous yn difyrru ein gwylwyr ffyddlon tra’n ymgysylltu â chynulleidfa newydd, drwy roi persbectif Cymreig ar y byd. Mae strategaeth glir gennym i apelio at wylwyr yn y grŵp oedran 25–44 a’r grŵp economaidd-gymdeithasol C2DE, sy’n llywio penderfyniadau comisiynu cynnwys ar gyfer 2023–24, yn ogystal a blaen gynllunio cynnwys 2024–25.

Bydd S4C hefyd yn bartner creadigol, atyniadol i gyd-gynyrchiadau wrth i S4C anelu i ddenu cynulleidfaoedd ifancach ac ehangach.

Yn anad dim, bydd ein holl gynnwys yn cyflawni o leiaf un o dri phwrpas:

• Addysgu;
• Ysbrydoli; a
• Chynnig dihangfa.

Gan gydnabod fod ein gwylwyr yn wynebu heriau amrywiol yn eu bywydau, fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus byddwn yn estyn lloches a chymorth drwy ein cynnwys.

Byddwn felly’n creu cyfleoedd i’n gwylwyr – o ba bynnag oed – i ddeall mwy am y byd o’n cwmpas – o gostau byw i newid hinsawdd. Fe rown lais i straeon a chymeriadau ysbrydoledig wrth i ni gyrraedd cymunedau gwahanol, bywydau a lleoliadau unigryw. A byddwn yn creu dihangfa gyda chynnwys cyffrous, arloesol, uchelgeisiol a newydd ar draws ein platfformau.

Tra bydd y sianel llinol yn darparu ar gyfer pawb, bydd ein gwahanol lwyfannau – gwylio ar deledu, ar-lein, ar alw, ac unrhyw blatfform arall – ar gael unrhyw bryd ac yn darparu ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.

Creu cynnwys swnllyd

Wrth i ni wireddu strategaeth gynnwys sy’n ffocysu ar y gynulleidfa yn yr oedran 25–44, mae comisiynau newydd yn dechrau gweld llwyddiant – megis Gogglebocs Cymru wnaeth dreblu’r niferoedd oedd yn gwylio trwy’r llwyfannau ‘dal i fyny’ yn wythnosol ers lansiad y gyfres gyntaf eleni.

Rydym felly’n chwilio am frandiau adnabyddus a all ychwanegu i’n darpariaeth adloniant, ond sy’n cynnig personoliaeth Gymreig. Yn ogystal, rydym yn buddsoddi’n sylweddol mewn datblygu fformatau newydd gwreiddiol sy’n apelio i’r holl deulu.

Bydd brandiau adnabyddus y sianel yn parhau, ond gyda phwyslais ar dargedu cynulleidfa newydd. Edrychwn ymlaen felly at groesawu Am Dro, Gwesty Aduniad, Priodas Pum Mil, Jonathan a Sgwrs Dan y Lloer yn ôl dros y misoedd nesaf.

Gan ymateb i ddisgwyliadau ein cynulleidfa darged, byddwn yn lansio sawl fformat ddi-sgript newydd sy’n gwthio’r ffiniau creadigol. Yn rhan o hyn, byddwn yn dadansoddi pynciau drwy lens gwahanol ac yn herio rhagfarnau, wrth i ni gynyddu’r pwyslais ar gomisiynau fydd yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru: o Colli Cymru i’r Môr sy’n ymchwilio effaith newid hinsawdd ar Gymru, i Saith Person sy’n gweld unigolion yn ailymweld â rheiny sydd wedi dylanwadu ar eu bywydau.

Bydd Ni yw’r Cymry yn adlewyrchu beth yw hi i fod yn Gymry heddiw, ac yn Arwyr Anabl (teitl dros dro) byddwn yn edrych ar hanes anabledd yng Nghymru. Mae’r cyfresi yma yn cynnig cyfle i ni fuddsoddi mewn talent cyffrous newydd a chwilio am ffyrdd i ddatblygu talent adnabyddus. Bydd hyn yn adeiladu ar Stori’r Iaith, oedd yn gyfres hynod lwyddiannus a swnllyd wedi ei harwain gan Alex Jones, Ellis James, Sean Fletcher a Lisa Jên, tra hefyd yn rhoi cyfle i ni weld talent a lleisiau newydd yn y gyfres.

Bydd ein darpariaeth o gynnwys premiwm swnllyd yn gweld buddsoddiad gyda chyfresi byr trawiadol Gwir-Drosedd yn adrodd straeon syfrdanol wrth wthio ffiniau creadigol gyda hanes Y Twyllwr , Llofruddiaeth Niwclear, a Hoover: Lle ma fy ngwyliau?

Bydd comisiynau swmpus o gyfresi poblogaidd Y Llinell Las ac Y Fets yn rhoi blas gwahanol ar fywyd yng nghymunedau ar draws Cymru.

Hefyd ymysg y llechen eang bydd cyfresi pryfoclyd newydd fel Y Prif a Gwasanaeth Prawf, fydd yn rhoi mynediad arbennig i wasanaethau cyhoeddus.

Yn cynnig dihangfa i’r gynulleidfa bydd cyfresi newydd yn dilyn wynebau adnabyddus. Bydd cyn chwaraewr Cymru Mike Phillips yn dilyn y Cymry dramor yn Croeso i Dubai; tra bod Beti George a Huw Stephens yn Cysgu O Gwmpas mewn cyfres foethus sy’n ymweld â gwestai unigryw.

Edrychwn ymlaen at ail gyfres Bywyd a Bwyd gyda Colleen Ramsey; bydd Chris, Al a Kiri yn teithio ar draws Seland Newydd ar antur; a bydd amryw o ddogfennau a chyfresi difyr ffeithiol yn cefnogi darpariaeth Cwpan Rygbi’r Byd yn yr Hydref.

Lleisiau newydd

Yn dilyn llwyddiant rhaglenni dogfen tebyg i Drych: Fi, Rhyw ac Anabledd ac Ysgol Ni: Moelwyn bydd cyfle i adlewyrchu Cymru gyfoes yn ein harlwy dogfennol. Rydym am chwilio am straeon di-ofn, heriol ac emosiynol sy’n gwthio’r drafodaeth ac yn rhoi persbectif gwahanol ar fywyd.

Rydym yn awyddus i adlewyrchu mwy o leisiau’r cymoedd a gogledd-ddwyrain Cymru gyda rhaglenni tebyg i Wrecsam: Clwb Ni sy’n edrych ar hanes y clwb pêl-droed gyda Rob McElhenney a Ryan Reynolds.

Yn ogystal bydd dogfennau unigryw gyda wynebau cyfarwydd yn gyfle i gwrdd â chymeriadau unigryw gyda rhaglenni ar Alex: Epilepsi a Fi; a Sage Todz: Brodyr Brodorol.

Yn adeiladu ar gomisiynau digidol-yn-gyntaf bydd Byw y Freuddwyd yn gomisiwn YouTube yn dilyn cwpl sydd wedi gwerthu popeth i wireddu eu breuddwyd i fyw heb forgais yng ngorllewin Cymru. Bydd dwy raglen llinol yn rhan o 12 x 15’ o raglenni YouTube.

 

HANSH: Creu trwbl da

Yn blatfform i leisiau a thalent ifanc Cymru, bydd Hansh yn dod yn flaenllaw ar draws llwyfannau S4C o TikTok i Instagram, YouTube i Clic a’r iPlayer.

Mae Hansh wedi parhau i dyfu o ran gwylwyr a dilynwyr fis ar fis ers ei lansio, a bydd buddsoddiad pellach yng nghynnig digidol S4C i’r ifanc.

Bydd ymgyrch Hansh yn mynd â chynnwys direidus y brand y tu hwnt i’w gwylwyr ffyddlon, wrth i ni adeiladu ein harlwy o ddarpariaeth aml-genre ffurf ganolog a ffurf hir ar y llwyfan.

Bydd y gyfres newydd Mwy na Daffs a Taffs yn lansio ar Clic a iPlayer, gan ddilyn rhai o ddylanwadwyr mwyaf Prydain a cheisio chwalu eu farnau am Gymru. Yn ogystal, bydd y gyfres heriol caru Tishio Fforc? yn dychwelyd.

 

Cartref chwaraeon Cymru

Fe welon ni lwyddiant anhygoel ymgyrch Cartref Pêl-droed Cymru yn ystod hydref 2022 wrth i ni ryddhau llechen swmpus o gynnwys arbennig oedd yn cefnogi ymgyrch Cwpan Pêl-droed y Byd. Yng nghanol cyfnod hanesyddol i’r tîm cenedlaethol, gwelodd S4C y cyrhaeddiad gorau erioed ar draws ein llwyfannau digidol, gan dorri pob record i’r platfformau gyda’n cynnwys beiddgar.

O ddarpariaeth plant gyda’r Jambori lle bu dros 200,000 o blant Cymru yn canu mewn undod (a hanner y rheini mewn ysgolion ail-iaith) i raglenni dogfen Yma o Hyd a Cewri Cwpan y Byd, o Cyngerdd Efrog Newydd i Gemau Byw, roedd cynnwys S4C yn apelio ar draws y byd gyda miliynau o sesiynau gwylio ar-lein. Llwyddwyd i ddyblu y niferoedd gwylio gafwyd yn ystod gemau’r Ewros blaenorol.

Byddwn yn lansio ymgyrch Cartref Chwaraeon Cymru yn ystod 2023–24 i gyd-fynd gyda chystadleuaeth rygbi’r Chwe Gwlad, a Chwpan Rygbi’r Byd yn Ffrainc. Bydd hyn yn ymateb i angerdd y genedl gyda chynnwys megis rhaglen ddogfen arbennig ar Ken Owens yn ogystal â fformat newydd o’r Soffa i’r Sgrym gyda Robin McBryde a’i fab fydd yn dilyn criw o fechgyn ifanc o ogledd-ddwyrain Cymru a’r cymoedd yn dod at ei gilydd i chwarae gem yn Ffrainc. Yn ogystal, bydd dwy raglen Jonathan yn fyw o Ffrainc.

O ran ein darpariaeth i gyd-fynd gyda Chwpan Rygbi’r Byd, byddwn ynghanol y bwrlwm yn Ffrainc gyda Jason Mohammad, Sarra Elgan a Mike Phillips fel wynebau ein hymgyrch.

 

O’r sgript i’r sgrîn

Eleni byddwn yn lansio cronfa Sinema Cymru mewn partneriaeth â Cymru Creadigol a Ffilm Cymru, gyda’r bwriad o fuddsoddi mewn un ffilm y flwyddyn a datblygu sgriptiau cyffroes gyda thalent Cymraeg.

Bydd Y Sŵn yn arwain y ffordd gan adrodd hanes sefydlu S4C mewn i sinemâu ar draws Cymru, cyn i’r ffilm gael ei ddarlledu ar y gwasanaeth llinol. Yna, bydd ffilm arswyd Gwledd – sydd eisoes wedi bod ar Hulu ac mewn sinemâu – yn cael ei dangos ar S4C Noson Calan Gaeaf.

Yn dilyn llwyddiant ein cyd -gynhyrchiad gyntaf gyda Channel 4, Y Golau, mae llechen gref o ddrama eleni gyda Rownd a Rownd yn parhau i dyfu ei chynulleidfa, a Pobol y Cwm yn dathlu’r 50 yn 2024.

Byddwn yn lansio cyfres ddrama-gomedi Anfamol, sy’n addasiad o sioe theatr boblogaidd, yn ogystal â Creisis sy’n dilyn dyn ifanc ym Mhontypridd sy’n delio â chreisis yn ei fywyd personol ac yn y gwaith.

Bydd hefyd cyd-gynhyrchiad Pren ar y Bryn gyda BBC Cymru; yn ogystal â chyfres yn deillio o’r sebon Rownd a Rownd – Bariau; ac ail gyfres o’r ddrama boblogaidd Stad.

Rydym yn parhau i fuddsoddi’n sylweddol yn ein dramâu. Rhoddwyd arian datblygu i 12 sgript / syniad er mwyn meithrin talent cynhyrchu ac ysgrifennu newydd gyda chwmnïau Ie Ie Productions, Fiction Factory, Three Tables, BBC Studios a Boom Cymru. Ymhellach, mae Severn Screen wedi ymrwymo i gynhyrchu drama bob blwyddyn i S4C am y tair blynedd nesaf gyda’r talent Cymreig sydd y dyddiau hyn yn gweithio’n helaeth gyda Netflix, Gareth Evans.

Rydym hefyd yn parhau i alw am syniadau newydd wrth i ni lansio ein cyd-gynhyrchiad Drama Ryngweithiol gyda chwmni gemau Wales Interactive.

Ac mae ein dramâu yn parhau i werthu yn rhyngwladol, wrth i Britbox brynu Yr Amgueddfa, a Neflix yn cynnig Dal y Mellt.

 

Cartref digwyddiadau byw Cymru – LWP

Byddwn yn ailwampio ein darpariaeth digwyddiadau byw. Bydd amrywiaeth o gynnwys yn cael ei ddarparu o gwmpas Y Sioe Fawr wrth i ni ymestyn y cynnwys ar draws adloniant, bwyd a chystadlu ac yn ffrydio elfennau ar draws ein platfformau. Bydd Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol hefyd yn cael eu ffrydio trwy ein chwaraewyr.

Gydag S4C yn noddi llwyfan Gymraeg PRIDE Cymru, bydd llwyth o gynnwys LGBTQ+ yn rhan o’n darpariaeth drwy’r flwyddyn, gyda’r sylw’n cynyddu ymhellach yn ystod y dathliadau.

Byddwn hefyd yn gwthio ein brand LWP fel cartref cerddoriaeth gyfoes Cymru. Yn sgil hynny, byddwn yn cymryd rôl flaenllaw mewn digwyddiadau yn cynnwys Tafwyl, Green Man, a’r Eisteddfod, gan hefyd ddatblygu cynnwys Curadur, Uchafbwyntiau’r Haf, Sesiynau LWP a Fideos Cerddoriaeth LWP. Bydd hyn yn fuddsoddiad sylweddol pellach i sîn gerddoriaeth Cymru ac yn meithrin talent newydd cerddorol ymhellach.

 

Cymraeg i bawb

Gydag apwyntiadau newydd o fewn y tîm Cynnwys a Chyhoeddi, bydd Arweinydd Strategaeth y Gymraeg a’r Gweithredwr Cynnwys Addysg yn ein cynorthwyo i lansio ymgyrch Cymraeg i Bawb, fydd yn croesawu siaradwyr newydd a dysgwyr i’n cynnwys.

Ar yr un pryd, byddwn yn edrych ar sut gallwn ni ddarparu cynnwys yn fwy effeithiol o fewn y byd addysg, gan dargedu cartrefi cymysg, rhieni ail-iaith, ysgolion, colegau a phrifysgolion.