Cyfraniad Cymdeithasol ac Economaidd S4C

Ers ei sefydlu yn 1982, mae S4C wedi bod yn ymwybodol iawn o’i chyfraniad i Gymru ac yn ehangach.

Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, mae gennym gyfrifoldeb a swyddogaeth bwysig fel hwylusydd a galluogwr, gan ddefnyddio ein hadnoddau i ddod â’r budd mwyaf i’n gwylwyr a’r gymdeithas yn ehangach.

Drwy weithio gydag amryw o bartneriaid, rydym yn gweithio’n galed i gyfrannu at ddyfodol iaith, diwylliant, amgylchedd ac economi Cymru.

Datganiad Polisi

Ym mis Rhagfyr 2022, cymeradwyodd y Bwrdd Unedol ddatganiad polisi sy’n dod â gweithgareddau presennol S4C ynghyd o ran cyfraniad cymdeithasol ac economaidd.

Mae’r datganiad polisi hwn yn alinio gyda’r strategaeth gorfforaethol newydd a gymeradwywyd yn gynt yn y flwyddyn adrodd, ac mae’r blaenoriaethau polisi’n adlewyrchu elfennau o’r strategaeth gorfforaethol – sy’n tanlinellu pa mor greiddiol yw cyfraniad cymdeithasol ac economaidd S4C i weithgareddau ehangach y sefydliad.

Pwrpas Cymdeithasol S4C: Sicrhau fod y Gymraeg yn rhan o fywyd pawb yng Nghymru

Blaenoriaethau Polisi:
“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd”

Cynyddu’r niferoedd sy’n ymwneud â chynnwys S4C yn y Gymraeg, i helpu cyrraedd y filiwn (a dyblu’r defnydd dyddiol)

Adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth

Adlewyrchu cymunedau Cymru drwy osod targedau amrywiaeth clir, yn fewnol ac ar draws ein cynyrchiadau

Creu Gwerth yn Gynaliadwy

Creu gwerth trwy ein hadnoddau i gefnogi’r economi leol; ac wrth wneud hynny, gweithio tuag at leihau ôl troed carbon ein holl weithgareddau

Meithrin Talent

Defnyddio ein hadnoddau a’n dylanwad i feithrin talent oddi fewn i S4C ac yn y sector ehangach, yn ogystal â chefnogi datblygu sgiliau

Crëwyd swydd newydd yr Arweinydd Amrywiaeth, Cynaliadwyedd a Phwrpas Cymdeithasol yn ystod gwanwyn 2023. Ymysg cyfrifoldebau’r Arweinydd fydd arwain gweithgareddau S4C oddi fewn i’r datganiad polisi newydd hwn, a datblygu strategaethau perthnasol yn ôl yr angen.

 

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd”

Ers 1982, mae’r iaith wedi bod yn greiddiol i fodolaeth S4C ac yn ganolbwynt allweddol i’w holl ddarpariaeth. Mae’r rôl hollbwysig y mae S4C yn ei chwarae o ran cynnal a hyrwyddo’r Gymraeg wrth galon ei diben cyhoeddus unigryw, a chafodd hyn ei ffurfioli wrth i S4C dderbyn cadarnhad o’i setliad Ffi’r Drwydded o Ebrill 2022 ymlaen.

Mae gennym bellach gyfraniad sylweddol i’w gynnig at wireddu amcanion strategaeth Llywodraeth Cymru ‘Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr Cymraeg’, sef: cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg a chreu amodau ffafriol i sicrhau ffyniant yr iaith.

Rydym felly – trwy ein cynnwys – yn ceisio hwyluso mynediad i a defnydd o’r Gymraeg i bawb o bob oed a gallu ieithyddol.

Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn perthynas â’r byd addysg, ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid allweddol i ddatblygu cynnwys addysgiadol i gefnogi’r cwricwlwm yng Nghymru ac i sicrhau y gall cynnwys S4C gael ei ddefnyddio gan rai sy’n dysgu – beth bynnag eu hoedran. I wireddu’r amcanion hyn, rydym wedi penodi i ddwy swydd newydd yn ystod 2022–23, sef Arweinydd Strategaeth y Gymraeg, a’r Gweithredwr Cynnwys Addysg.

Law yn llaw â hwyluso mynediad i’n cynnwys i siaradwyr newydd, mae’n hollbwysig bod siaradwyr Cymraeg o bob gallu ieithyddol yn dewis gwylio cynnwys S4C yn rheolaidd.

Er mwyn gwerthuso ein cyfraniad yn hyn o beth, byddwn yn edrych dros y blynyddoedd nesaf i gynyddu ‘arferiad’ ymysg ein cynulleidfa – sef y ganran sy’n dewis gwylio cynnwys S4C ar un neu fwy o lwyfannau, am o leiaf dwy awr, ac ar draws tri neu fwy o ddiwrnodau bob mis.

 

Adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth

Mae’n hanfodol bod S4C yn portreadu ac yn dathlu Cymru yn ei holl amrywiaeth ac mae gweithio tuag at hyn yn parhau yn flaenoriaeth i S4C. Mae’r gynulleidfa yn gweld hyn yn agwedd bwysig o waith S4C.

Mae 68% o wylwyr sy’n siarad Cymraeg o’r farn fod S4C yn sianel sy’n llwyddo i adlewyrchu amrywiaeth y bobl sy’n byw yng Nghymru o ran oed, rhyw, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu ethnigrwydd ar draws ei raglenni yn ystod 2022–23 (Ffynhonnell: Arolwg Tracio Delwedd S4C, Beaufort Research, 2023). Yn yr un arolwg y flwyddyn gynt, y ffigwr cymharol oedd 59%.

Er mwyn i S4C barhau i wasanaethu a thyfu ei chynulleidfa, yn ogystal â chyfrannu at sector ddarlledu gref, mae’r ymrwymiad hir-dymor i sicrhau fod cynrychiolaeth ar y sgrin a thu ôl i’r camerâu yn parhau ac yn holl bwysig.

Rydym felly’n gweithio gyda’r sector gynhyrchu i sicrhau bod ein cynnwys yn adlewyrchu ein cymunedau yn eu holl amrywiaeth.

Mae S4C yn ymaelodi â’r system Diamond sy’n cael ei chydlynu gan y Creative Diversity Network. Dyma’r system sydd wedi ei sefydlu gan nifer o ddarlledwyr blaenllaw’r DU er mwyn casglu data amrywiaeth a chynrychiolaeth cyson ar y rhaglenni maent yn eu comisiynu. Bwriad S4C wrth fabwysiadu’r system yw cynyddu amrywiaeth ar a thu ôl i’r ‘sgrîn’ yng nghynnwys S4C er mwyn adlewyrchu Cymru heddiw.

Wrth werthuso ein cynnydd, byddwn yn cymharu’r data o’r system Diamond ar gynnwys S4C yn erbyn canlyniadau amrywiaeth Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru. Byddwn yn adrodd ar ein cynnydd unwaith ag y bydd y system Diamond ar waith.

Yn ogystal â chymryd camau i sicrhau bod ein cynnwys yn adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth, rydym hefyd yn gweithio i gynyddu amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant ar draws ein gweithgareddau corfforaethol.

 

Creu Gwerth yn Gynaliadwy

Ochr yn ochr â’n cyfraniad cymdeithasol, mae S4C yn gwneud cyfraniad sylweddol i economi Cymru.

Buddsoddir bron i 80% o gyllid cyhoeddus S4C mewn rhaglenni a chynnwys. Mae hyn yn cynrychioli buddsoddiad yn y gwasanaethau a ddarperir i’r gynulleidfa ac yn y sector gynhyrchu yng Nghymru.

Rydym yn buddsoddi ac yn comisiynu ein cynnwys gan gwmnïau cynhyrchu ledled Cymru ac mae ein cwmnïau cadwyn gyflenwi yn eu tro yn chwarae rhan bwysig yn eu heconomïau lleol.

Rydym hefyd yn awyddus i gefnogi’r sector i ddatblygu, a chynorthwyo cwmnïoedd i wireddu eu potensial. Bydd hyn yn ei dro yn cryfhau ein cadwyn gyflenwi. Mae’r camau rydym wedi eu cymryd hyd yn hyn yn cynnwys hwyluso mwy o gydweithio rhwng y cwmnïoedd mwy a llai – megis trwy annog y defnydd o adnoddau a chyfarpar cynhyrchu gan gwmnïoedd llai pan nad yw’r cwmnïoedd mwy sydd eu perchen eu hangen.

Ar yr un pryd, mae strategaeth fasnachol newydd S4C yn anelu at gyfrannu at ffyniant economaidd Cymru drwy, ymysg amcanion eraill, sefydlu cronfa dwf i fuddsoddi mewn cwmnïoedd sydd â photensial i dyfu, ac sy’n alinio gyda phwrpas S4C.

Mae crynswth yr holl weithgaredd hyn felly’n golygu bod cyfraniad S4C i economi Cymru yn sylweddol – ac mae’n bwysig bod y cyfraniad hwnnw’n cael ei deimlo ym mhob cwr o Gymru.

Ein hamcan yw gwario dros 95% o’n cyllideb gynnwys gyda chynhyrchwyr sydd wedi eu lleoli yng Nghymru. Yn 2022–23, llwyddom i wario 98% o’r gyllideb cynnwys oddi fewn i Gymru (2021–22: 99%).

(Mae’r data uchod yn berthnasol i leoliad swyddfeydd y cwmnïau cynhyrchu, ac nid yw’n adlewyrchu gweithgaredd cynhyrchu neu wariant mewn lleoliadau ar draws Cymru)

Ein hamcan dros y blynyddoedd nesaf yw sicrhau dosraniad mwy cyfartal o wariant ar gynnwys ar draws Cymru.

Ym mis Rhagfyr 2020, comisiynodd S4C gwmni ymchwil Arad i adolygu gwariant S4C yn ystod 2019–20 a chynnal asesiad effaith economaidd ar gyfraniad S4C i economi’r DU a Chymru. Cyfrifodd Arad i S4C yn ystod y flwyddyn ariannol o dan sylw greu effaith economaidd o £197.4m ar economi’r DU, ac £141.1m ar economi Cymru.

Mae hyn yn golygu, am bob £1 o incwm cyhoeddus a dderbyniodd S4C yn 2019–20, fe greom yr effaith economaidd a ganlyn:

• £2.03 yn Economi’r DU; ac
• £1.45 yn Economi Cymru.

Wrth gymeradwyo’r datganiad polisi ar Gyfraniad Cymdeithasol ac Economaidd S4C, fe ymrwymodd y Bwrdd Unedol i gomisiynu asesiad o effaith economaidd a chymdeithasol S4C bob dwy flynedd, er mwyn sicrhau gwerthusiad annibynnol o’r effaith hwnnw.

Yn ystod gwanwyn 2023, penodwyd cwmni Wavehill i gynnal gwerthusiad annibynnol o effaith economaidd a chymdeithasol S4C yn ystod y flwyddyn adrodd 2022–23. Disgwylir i Wavehill adrodd i’r Bwrdd Unedol ar eu canfyddiadau yn ystod hydref 2023.

Wrth gwrs, wrth fynd ati i gefnogi a buddsoddi yn nhwf economaidd Cymru, mae S4C yn ymwybodol iawn o’r angen i wneud hynny mewn ffordd sy’n amgylcheddol-gynaliadwy.

Ers Medi 2021, mae gan S4C bartneriaeth gyda chonsortiwm BAFTA albert, sef cymdeithas o rai o gwmnïau cynhyrchu a darlledwyr mwyaf y DU er mwyn cyflawni hyn, ac ymgorffori cynaliadwyedd yn ein proses gynhyrchu drwy:

• Wneud cyfrifo ôl troed carbon albert yn orfodol ar yr holl gynnwys a gomisiynir gennym; a
• Mynd ati i annog cynyrchiadau i gwblhau proses ardystio albert ar gyfer eu cynyrchiadau.

Daeth yn orfodol o 01 Ionawr 2022 i gwmnïoedd sy’n cynhyrchu cynnwys i S4C gydymffurfio gyda’r gofynion uchod (heblaw bod y cynhyrchiad yn gyfres dan 15 munud o hyd a / neu fod cyfanswm y gyllideb yn llai na £50,000).

Yn ystod 2022–23, fe wnaeth rhyw 92% o gynyrchiadau S4C gydymffurfio gyda gofynion albert – canlyniad oedd yn is na’r hyn a obeithiwyd yn sgil y nifer o ddarllediadau chwaraeon yn ystod y flwyddyn adrodd.

Mae’r consortiwm BAFTA albert hefyd yn cynnig hyfforddiant am ddim sy’n cwmpasu darlun mawr newid yn yr hinsawdd, ei oblygiadau i’r diwydiant teledu a’r hyn y gall unigolion ei wneud er mwyn gwneud gwahaniaeth.

Yn sgil ein partneriaeth gydag albert, roedd S4C yn un o 12 o ddarlledwyr a ffrydiwyr ddaeth ynghyd yn ystod Tachwedd 2021 i ymrwymo i’r Addewid Cynnwys Hinsawdd, oedd wedi ei drefnu gan albert. Dyma oedd y tro cyntaf i’r diwydiant weithio ar y cyd ar ddatganiad o’r fath.

Mae S4C a’r llofnodwyr eraill – sy’n cynnwys y BBC, BBC Studios, Britbox International, Channel 4, Channel 5 / ViacomCBS, Discovery UK and Eire, ITV, RTE, Sky, STV, ac UKTV – wedi ymrwymo i ddefnyddio ein cynnwys i helpu cynulleidfaoedd i ddeall beth allai mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ei olygu iddynt hwy, yn ogystal ag ysbrydoli a llywio dewisiadau cynaliadwy.

Oddi ar y sgrîn, mae S4C yn gweithio i leihau effaith ei gweithgareddau corfforaethol ar yr amgylchedd.

Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi cymryd camau i leihau teithio ble nad oes angen, a chynyddu’r defnydd o fideo-gynadledda. Anogir y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus cymaint â phosib.

Yn ystod 2022–23, daeth 100% o’r trydan a ddefnyddiwyd gan S4C yn yr Egin o ffynonellau adnewyddadwy (2021–22: 88%). Ymhellach, ailgylchwyd mwyafrif gwastraff ein swyddfeydd yn ystod yr un cyfnod.

Mae S4C wedi paratoi Adroddiad Cynaladwyedd ar wahân, sy’n ymddangos yn adran ‘Adroddiadau Gweithredol’ yr Adroddiad Blynyddol hwn.

Ein nod yw lleihau ein hôl troed carbon ein gweithgareddau corfforaethol dros y blynyddoedd nesaf, a chytuno ar ddyddiad targed er mwyn cwblhau’r trawsnewid i weithredu ar sail Sero Net.

 

Meithrin Talent

Ers y cychwyn cyntaf un, mae S4C wedi chwarae rôl greiddiol yn datblygu talent a sgiliau o fewn y sector yng Nghymru.

Mae natur comisiynu S4C fel cyhoeddwr ddarlledwr nad yw’n creu cynnwys ei hun wedi galluogi ein partneriaid cynnwys i fuddsoddi yn natblygiad sgiliau eu staff dros y blynyddoedd. Ac mae S4C ei hun yn parhau i fuddsoddi ac arwain y ffordd er mwyn cefnogi’r nod yma.

Mae cefnogi pobl o bob cefndir i ddod i weithio yn y sector hefyd yn flaenoriaeth i S4C. Rydym felly yn falch o fod wedi parhau i weithio gyda phartneriaid fel It’s My Shout, Screen Alliance Wales a Gyrfa Cymru yn ystod y cyfnod adrodd i wireddu hyn, ac o fod wedi bod yn rhan o’r cynllun peilot RAD Cymru Wales – cynllun hyfforddi gyda thâl i rai o gefndiroedd sy’n cael eu tangynrychioli.

Rydym hefyd wedi ffurfioli ein partneriaeth gyda Sgil Cymru, a buddsoddi ar y cyd gyda Cymru Creadigol yn y cynllun Criw i alluogi mwy o lefydd i brentisiaid ar gynyrchiadau S4C.

Ac mae Hansh: Dim Sbin, ein partneriaeth hyfforddi arloesol gydag ITV Cymru a sefydlwyd yn 2018, hefyd wedi parhau yn llwyddiannus

Mae’r holl weithgareddau hyn yn ein cynorthwyo i gynnal gweithlu medrus iawn sy’n sail i sector gynhyrchu o’r radd flaenaf yng Nghymru ac sy’n denu cynyrchiadau teledu, ffilm a chynnwys digidol o wledydd ledled y byd.

 

Gwerthuso Cyfraniad Cymdeithasol ac Economaidd S4C

Ein bwriad yw adrodd ar ein cynnydd yn erbyn y blaenoriaethau polisi newydd yn ein hadroddiadau blynyddol o 2023–24 ymlaen.

Er mwyn caniatáu gwerthuso’r cynnydd, mae cyfres o fesuryddion pwrpasol yn cael eu datblygu. Nid yw’r targedau perthnasol wedi eu cytuno eto ar gyfer pob un o’r mesuryddion.