Darparu cynnwys ar lwyfannau o ddewis y gynulleidfa

Yn ogystal â chyrraedd llwyfannau newydd, rhaid i ni hefyd adnabod ein cynulleidfaoedd, a’r hyn maent am ei wylio. Mae cryn ddiolch i’r tîm ymchwil am y gwaith dadansoddi sydd wedi ei wneud dros y flwyddyn ddiwethaf – gan gynnwys datblygu dashfwrdd newydd sydd wedi ein galluogi i gyflwyno proses gomisiynu sydd yn fwy hyblyg ac yn ateb anghenion ac arferion gwylio’r gynulleidfa yn well.

Wrth i ni adeiladu ein strategaeth llwyfannau, mae’r gynulleidfa wedi cynyddu ar draws pob llwyfan.

Mae’r defnydd cynyddol o wylio cynnwys S4C ar draws y gwahanol lwyfannau yn golygu, heb os, bod amserlennu’r cynnwys ar draws y llwyfannau hynny bellach yr un mor bwysig ag amserlennu ar deledu llinol traddodiadol.

Mae mesur perfformiad a gwylio ar lwyfannau eraill yn greiddiol hefyd, a chytunwyd mesuryddion perfformiad newydd yn ystod cyfnod yr adroddiad yma am y tro cyntaf. Un o brif amcanion Strategaeth 2022–27 yw cynnig y cynnwys mae pobl am ei wylio ar y llwyfannau maent yn eu defnyddio. Felly wrth i ni ehangu’r cyfleoedd i ymwneud â’r gwasanaeth ar wahanol lwyfannau a dyfeisiadau, mae’n galonogol gweld bod y gynulleidfa yn tyfu hefyd.

Mae ein gwylio ar Clic ac iPlayer ar ei uchaf erioed gyda chynnydd o 10% ers y llynedd. Pan gyhoeddwyd ein drama Dal y Mellt yn Hydref 2022, bu 50% o’r gwylio ar ôl diwrnod y darllediad llinol drwy wahanol ddulliau ar alw. Mae cyfresi eraill wedi gweld tueddiadau tebyg, fel Gogglebocs Cymru gyda 60% o oriau gwylio’r gyfres ar alw ar ôl y noson, gan adlewyrchu arferion gwylio pobl ifanc. Mae Gogglebocs Cymru hefyd yn nodweddiadol am y gwerthfawrogiad uchel iawn o’r gyfres ymhlith cynulleidfaoedd iau (a’r garfan 16-24 oed yn arbennig).