“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd”

Drwy’r cyfnod adrodd rydym wedi rhoi adnoddau strategol i sicrhau bod ein cynnwys yn cadarnhau’r hyn rydym yn ei gynnig fel darlledwr cenedlaethol Cymru.

Bydd rôl newydd Arweinydd Strategaeth y Gymraeg yn gweithredu memorandwm cyd-ddealltwriaeth newydd gyda Llywodraeth Cymru sydd yn amlinellu rôl S4C yn yr amcan o filiwn o siaradwyr a dyblu defnydd erbyn 2050. Lansiwyd y memorandwm wrth i’n cyfres drawiadol Stori’r Iaith (Rondo Media) ddarlledu fis Chwefror 2023, gyda phedwar cyflwynydd gwahanol – Sean Fletcher, Alex Jones, Elis James a Lisa Jên – yn trafod eu perthynas gyda’r iaith. Mae’r gyfres eisoes yn cael ei defnyddio o fewn addysg ac yn sbarduno’r sgwrs am beth yw’r Gymraeg heddiw.

Yn ystod y cyfnod adrodd, rwy’n falch ein bod wedi cynyddu ein darpariaeth o isdeitlau yn Gymraeg yn ôl ein hymrwymiad, gan gynnwys ar ein rhaglenni plant a byw, megis Heno (Tinopolis). Mae 46% o’n rhaglenni bellach gydag is-deitlau Cymraeg – sef cynnydd o 21% ar y flwyddyn flaenorol.