Profiadau Cenedlaethol Cymru

Ym mlwyddyn hanesyddol Cwpan y Byd, roedd yn fraint cael bod yn rhan o Jambori’r Urdd gyda 330k o blant yn canu i ddathlu Cymru’n cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

Mae chwaraeon yn rhan greiddiol o’n harlwy i gynulleidfaoedd Cymru wrth i ni adlewyrchu’r rhan bwysig yma o’n diwylliant. Ac mae hefyd yn cyflwyno S4C i gynulleidfaoedd newydd sydd yn mwynhau ein brandiau chwaraeon fel Sgorio (Rondo Media).

Ond, nid cartref pêl-droed Cymru yn unig yw S4C. Parhaodd ein cynnwys chwaraeon i ddenu cynulleidfaoedd gwych ar draws pob camp. Roeddem yn falch o ddarlledu gemau pêl-droed nodedig – o gêm merched Wrecsam yn erbyn Cei Connah i gêm ragbrofol Cwpan y Byd Cymru yn erbyn Wcráin.

Mae ein darllediadau ralïo bob amser yn dod â chynulleidfaoedd gwych ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, a charfan ffyddlon yn dilyn y Giro d’Italia, y Tour de France a Triathlon Cymru yn y Gymraeg drwy S4C.

Ac mae rygbi yn parhau yn ffefryn wrth i ni ddarlledu holl gemau’r Chwe Gwlad o’r tîm dynion i’r gemau dan 20.

Mae darllediadau S4C o ddigwyddiadau byw yn esblygu o ddarlledu ar y teledu yn unig i ffrydio ar draws sawl llwyfan gan gynnig gwasanaeth mwy cynhwysfawr i gynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt. Roeddem yn falch o ffrydio’n fyw o dri llwyfan yn yr Urdd yn 2022, ac fel prif ddarlledwr y Sioe Fawr fe wnaethon dorri recordiau o ran y cynulleidfaoedd a gyrhaeddwyd trwy Facebook, YouTube ac ar y teledu. Fe wnaethom ddarlledu rhaglen gynhwysfawr o ŵyl Gymraeg Tafŵyl am y tro cyntaf, ac roedd ein darlledu o’r Eisteddfod Genedlaethol unwaith eto yn aml-lwyfan.

Wrth i’r rhyfel yn Wcráin ddryllio bywydau, cafwyd cyngerdd codi arian arbennig ar S4C i ddangos ein cefnogaeth i bobol Wcráin, mewn partneriaeth â’r pwyllgor argyfwng trychinebau DEC Cymru. Fe gafwyd adroddiadau arbennig o’r llinell flaen ar wasanaeth Newyddion S4C (BBC Cymru) ac ar Y Byd ar Bedwar (ITV Cymru) gyda’r cynnwys yn derbyn enwebiadau am wobr RTS Cymru.

Mae’n gwasanaeth newyddion digidol newydd hefyd yn mynd o nerth i nerth, gyda chynnydd cyson yn y niferoedd sy’n lawrlwytho’r ap, a thwf yng nghyrhaeddiad y gwasanaeth ar Facebook ac Instagram. Yn ystod y flwyddyn nesaf byddwn yn lansio gwasanaeth newyddion newydd ar TikTok.