Strategaeth 2022–27

Pan lansiodd S4C ym 1982, dim ond pedair sianel oedd. Heddiw, mae cannoedd ar gael. Mae ein strategaeth a’n blaenoriaethau yn adlewyrchu’r trawsnewid sylweddol y mae pob darlledwr yn ei wynebu heddiw, wrth i ddisgwyliadau’r gynulleidfa gynyddu o ran sut a beth maent am ddewis ei wylio, a hynny o fewn y môr o gynnwys sydd ar gael.

Mae’n galonogol gweld bod blaenoriaethau ein strategaeth newydd – denu cynulleidfaoedd newydd ac iau at y gwasanaeth – eisoes yn llwyddo , gyda nifer o’r mesuriadau hyn wedi cynyddu’n sylweddol.

Tra bod y niferoedd sy’n gwylio teledu llinol yn lleihau ar draws yr holl sianeli, gwelsom gynnydd yn y niferoedd sy’n troi at S4C. Roedd ein cyrhaeddiad wythnosol ar ei uchaf ers pum mlynedd, ac 8% yn uwch na’r llynedd. Fe gynyddodd cyfraniad oed 16-44 at ein oriau gwylio yn sylweddol, mae nawr ar ei uchaf ers degawd.

Yn wir, dros y pum mlynedd diwethaf, wrth i broffil oedran cynulleidfa cyfartalog y chwe sianel cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru heneiddio mae proffil oedran cynulleidfa S4C wedi mynd yn iau.

Ar yr un pryd, mae proffil economaidd-gymdeithasol cynulleidfa S4C wedi gwyro i ffwrdd o’r grŵp C2DE ar raddfa ychydig yn gynt na chyfradd y chwe sianel cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus. Yn sgil hyn, mae ein strategaeth gynnwys dros y cyfnod nesaf yn cynnwys cynnig arlwy fydd yn apelio at y grŵp pwysig hwn.