Adolygu Perfformiad a Blaenoriaethau i'r Dyfodol

Ar ddiwedd blwyddyn gyntaf Strategaeth 2022–27 felly, rwy’n falch iawn o adrodd cynnydd cadarnhaol gydag uchafbwyntiau fel:

  • Cyrhaeddiad wythnosol S4C (yng Nghymru) wedi cynyddu i 324,000 – 8% yn uwch na llynedd a’r uchaf ers pum mlynedd.;
  • Cyrhaeddiad wythnosol S4C at siaradwyr Cymraeg yn 150,000, sydd 14% yn uwch na llynedd a’r uchaf hefyd ers pum mlynedd;
  • Gwylio rhaglenni oriau brig S4C i fyny 16% ers llynedd, a’n cynulleidfa oed 16–44 yr uchaf ers degawd, a 45-64 yr uchaf ers 9 mlynedd;
  • Cyfran gwylio S4C yr uchaf ers degawd, yn dangos ein bod yn cynnal yn dda yn erbyn sianeli eraill;
  • Cynulleidfa dal-i-fyny S4C (1-7 diwrnod ar ôl y diwrnod darlledu) ar ei uchaf erioed;
  • Cynnydd o 10% yn oriau gwylio rhaglenni S4C ar draws Clic ac iPlayer; ac
  • Oriau gwylio S4C ar YouTube bron wedi dyblu.

 

 

Wrth i ni edrych tuag at ail flwyddyn y Strategaeth, bydd ein blaenoriaethau yn 2023–24 yn aros yn gyson ac yn adeiladu ar lwyddiannau eleni. Byddwn yn parhau i:

  • Greu cynnwys beiddgar i ddenu cynulleidfa ieuengach, a chynulleidfa C2DE;
  • Gwreiddio’r trawsnewid i fyd aml-lwyfan, a chadw’r momentwm o weithredu ein strategaeth lwyfannau; a
  • Gweithredu ein rhaglen ‘EIN diwylliant’ er mwyn creu S4C sydd ymhlith goreuon y byd.