Adlewyrchu Cymru a Chreu Gwerth trwy ein Partneriaethau

Adlewyrchu Cymru a Meithrin Talent

Drwy ein cynnwys, a’r gweithlu sy’n ei greu i ni, mae’n hanfodol bod S4C yn adlewyrchu Cymru yn ei chyfanrwydd. Rydym wedi parhau gyda’r amcan pwysig eleni o sicrhau ein bod yn gwella ein cynrychiolaeth a’n hamrywiaeth – ar y sgrin a thu cefn y camerâu.

Rydym yn integreiddio’r egwyddorion hyn i bopeth a wnawn yn S4C, yn ogystal â gyda’n partneriaid yn y sector. Yn ystod y flwyddyn, crëwyd swydd Arweinydd Amrywiaeth, Cynaliadwyedd a Phwrpas Cymdeithasol i weithredu’r nod yma. A pharhaodd S4C i weithio gyda phartneriaid gwerthfawr gan gynnwys It’s My Shout, Screen Alliance Wales, Culture Connect Cymru, rad Cymru, a sefydlu’r cyntaf o baneli cynghori S4C (ar hil ac ethnigrwydd). Cychwynnwyd y broses hefyd o ymuno gyda phrosiect Diamond, sydd yn mesur amrywiaeth a chynrychiolaeth ar ac oddi ar y sgrin ar gyfer darlledwyr y DU, fel y bydd data pendant gennym ni a sylfaen i wella.

 

Creu gwerth trwy ein hadnoddau

Mae nifer o elfennau Strategaeth 2022–27 yn deillio o argymhellion adroddiad annibynnol y diweddar Euryn Ogwen Williams i’r DCMS a gyhoeddwyd yn 2018. Rydym wedi parhau i wireddu’r argymhellion hyn, ac wedi adolygu ac ail lansio S4C Masnachol fel ein bod yn creu gwerth trwy ein hadnoddau. Ar ôl gwerthu Parc Tŷ Glas a’n buddsoddiad hanesyddol yn y cwmni Wildseed yn llwyddiannus, mae ffocws clir ar strategaeth y dyfodol. Roeddem yn falch iawn o fod yn bartner gyda Cymru Greadigol a Rondo i lansio stiwdios Aria ar Ynys Môn fis Chwefror 2023. Eleni hefyd, byddwn yn lansio Cronfa Cynnwys a Chronfa Twf i adeiladu ein hadnoddau yma yng Nghymru trwy fuddsoddiadau clir a phwrpasol.

 

Diolch i’n partneriaid

Mae cymaint o’n gwasanaethau yn cael eu cyfoethogi gan ein partneriaethau strategol ac rydym mor falch o esblygiad strategol y perthnasau hyn dros y flwyddyn ddiwethaf.

Roeddem yn falch iawn o weithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, yr Urdd, BBC Cymru, a Llywodraeth Cymru fel rhan o Dîm Cymru o amgylch Cwpan y Byd yn Qatar. Fel rhan o gefnogaeth S4C, cafwyd cyngerdd llwyddiannus Cymru yn America (Orchard Media) yn Efrog Newydd lle derbyniodd Rob McElhenney a Ryan Reynolds wobr ‘Diolch y Ddraig’ gan Lywodraeth Cymru am eu cyfraniad i Gymru.

Gwelsom ymgysylltiad anhygoel ledled y byd gyda chynnwys S4C o’r cyngerdd gydag un clip o’r carped coch – a ddarlledwyd yn wreiddiol ar raglen Heno (Tinopolis) – yn denu 383k o sesiynau gwylio ar TikTok. Fe wnaeth clipiau eraill o’r carped coch a chyflwyniad gwobr ‘Diolch y Ddraig’ ddenu dros 50k o sesiynau gwylio yr un ar Facebook, gyda chyfweliad Rob a Ryan wedi derbyn y wobr yn ennyn dros 70k o sesiynau gwylio ar YouTube.

Mae S4C yn croesawu ein partneriaeth gyda’r DCMS ac yn falch o weld drafft Mesur y Cyfryngau wedi ei gyhoeddi yn San Steffan. Bydd hyn yn gam i roi amlygrwydd ffurfiol i S4C a chynnwys Cymraeg ar lwyfannau newydd. Mae hyn – a rhoi statws i ddarlledwyr cyhoeddus a’r Gymraeg am y tro cyntaf – i’w croesawu’n fawr.

Rydym yn ddyledus i’n holl bartneriaid cynhyrchu – 70 ohonynt yn 2022–23 – sy’n creu ac yn cynhyrchu cynnwys i S4C sydd yn parhau i ennill gwobrau a diddanu’r gynulleidfa. Mae bron i 80% o’n cyllideb yn cael ei wario ar gomisiynu cynnwys, gyda thros 98.4% o’r cynnwys hwn yn cael ei gynhyrchu yn y sector creadigol yma yng Nghymru.