Mynd â chynnwys S4C at y gynulleidfa

Yr her heddiw ydi sicrhau fod S4C yn ddigon swnllyd a beiddgar i gystadlu gyda’r oriau di-ri o gynnwys gan gannoedd o sianeli, ffrydiwyr a llwyfannau eraill ar draws byd. Yn ôl ymchwil gan Enders, yn 2010 roedd llai na 5,000 o oriau o gynnwys ar gael i’r gynulleidfa ddewis ohono – erbyn 2023, mae dros 120,000 o oriau ar gael i’w dewis wrth i fwy o lwyfannau gael eu lansio

Er gwaethaf yr holl gystadleuaeth, mae yma gyfleoedd – ac mae’n rhaid i ni fanteisio arnynt.rtunities

Un sianel linol oedd gan S4C pan lansiwyd y gwasanaeth. Bellach, gyda’r holl lwyfannau gwahanol sydd ar gael, mae cyfle mawr i S4C i rannu ei chynnwys ymhellach. Yn ôl amcangyfrif Enders, nid yw hanner pobl ifanc 16-24 oed yn gwylio ar y set deledu draddodiadol bellach. Rhaid i ni felly sicrhau y gall pawb fwynhau cynnwys S4C ar ba bynnag lwyfan maent yn ei ddefnyddio – boed hynny drwy wylio ar alw, setiau bocs ar Clic neu iPlayer, neu ddarganfod S4C ar YouTube a chyfryngau cymdeithasol eraill.

Rydym yn ddyledus i’r DCMS am y setliad ychwanegol o Ffi’r Drwydded i alluogi ein rhaglen drawsnewid, sy’n cynnwys datblygu ein presenoldeb ar wahanol lwyfannau er mwyn cyrraedd y gynulleidfa. Roedd lansio Clic 2.0 yn cynnig cyfle i ddiweddaru gwedd a theimlad yr ap, tra hefyd yn cyflwyno nodweddion ychwanegol er budd y gynulleidfa. Mae’n braf gweld bod S4C/Clic yn awr ar gael ar 67% o setiau teledu clyfar, a’r gwaith yn parhau yn ddi-oed er mwyn cynyddu’r argaeledd hwn ymhellach, a hwyluso amlygrwydd S4C yn y byd aml-lwyfan.