“Darparu dy gynnwys di ar dy lwyfan di”

Er bod y gwasanaeth llinol traddodiadol yn blatfform o bwys i ddarlledu ein cynnwys, mae S4C, ynghyd â darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill, yn parhau i weld newid amlwg yn y patrymau gwylio wrth i fwy o bobl ddefnyddio ein gwasanaethau fideo ar alw. Rydyn ni felly’n rhoi pwyslais cynyddol ar berfformiad ein cynnwys ar Clic ac iPlayer.

Mae pwysigrwydd y dull hwn i’w weld yn nata gwylio 2023–24. Drachefn, rydyn ni wedi gweld cynnydd sylweddol yn oriau gwylio cynnwys S4C ar Clic (+12%) ac iPlayer (+35%) o’u cymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Er ein bod yn amlwg yn croesawu’r ffaith bod cynnwys S4C ar gael ar iPlayer – drwy ein partneriaeth hirdymor â’r BBC – mae parhau i ddatblygu ein chwaraewr fideo ar alw, Clic, yn ein galluogi i gynnig gwasanaeth estynedig i’r gynulleidfa. Yn ystod 2023–24, parhawyd i gyflwyno fersiwn ap Clic ar ei newydd wedd ar ddyfeisiau amrywiol, gyda’r ap hefyd yn lansio ar blatfform Freeview Play ym mis Gorffennaf 2023.

Yn sgil y gwelliannau a wnaed i Clic, roedd modd i S4C ddarparu ffrydiau unigol am y tro cyntaf o’r pafiliynau Coch, Gwyn a Gwyrdd yn Eisteddfod yr Urdd 2023. Bu hyn yn rhyfeddol o boblogaidd ymysg cynulleidfaoedd.

Fe geisiwyd datblygu ar y llwyddiant hwn wrth ffrydio’n fyw o Sioe Frenhinol Cymru, ac roedd hynny’n boblogaidd hefyd. Cafwyd 238,000 o sesiynau gwylio ar gyfer y cynnwys ar y ffrydiau byw yn ystod y digwyddiad pedwar diwrnod – y mwyafrif o’r rheini (194,000) drwy ein presenoldeb ar Facebook.

Parhaodd S4C yn boblogaidd ar Facebook, YouTube a phlatfformau eraill ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn ystod 2023–24, cafodd clip o Gogglebocs Cymru (Cwmni Da / Chwarel) am ddysgu Cymraeg 1 miliwn o sesiynau gwylio ar Instagram a TikTok.

Ym mis Awst 2023, lansiodd gwasanaeth Newyddion S4C ei bresenoldeb ar TikTok gan lwyddo i gael bron i 70,000 o sesiynau gwylio ar gyfer ei gynnwys yn y tri mis cyntaf. Mae ein tîm newyddion mewnol bellach yn cyhoeddi rhwng 200 a 300 o bostiadau bob wythnos ar y cyfryngau cymdeithasol, gan sicrhau bod newyddion Cymraeg gan S4C yn cyrraedd cynulleidfaoedd ar blatfformau amrywiol iawn. Ar yr un pryd, bu cynnydd o 54% yn nifer y tudalennau a welwyd drwy bresenoldeb Newyddion S4C ar y we.

Ym mis Medi 2023, ail-lansiwyd rhaglen newyddion S4C i blant a phobl ifanc, sef Newyddion Ni (BBC Cymru). A honno’n cael ei darlledu bob dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener yn ystod y tymor, mae’n cael ei rhyddhau i gychwyn ar S4C Clic am 11yb er mwyn gallu’i gwylio mewn ysgolion, cyn iddi gael ei darlledu ar y gwasanaeth llinol y noson honno a’i rhyddhau wedyn ar iPlayer. Mae rhai eitemau newyddion sy’n ymddangos ar Newyddion Ni hefyd yn cael eu cyhoeddi ar YouTube. Mae’r patrwm rhyddhau hwn yn fwriadol yn ceisio’i gwneud hi’n haws i weld y rhaglen ar blatfform sy’n gyfleus i’r gynulleidfa darged.