Ym mis Mehefin 2023, dechreuodd Ryan Chappell yn ei swydd fel Arweinydd Amrywiaeth, Cynaliadwyedd a Phwrpas Cymdeithasol newydd S4C. Elfen hollbwysig o gyfrifoldebau’r Arweinydd yw cydlynu gweithgareddau S4C wrth i’r sefydliad geisio cyflawni ei strategaeth amrywiaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb 2022–27: Adlewyrchu Cymru.
Mae’r strategaeth hon yn ceisio cyflwyno mwy o amrywiaeth, gwella cynhwysiant a sicrhau bod cymunedau Cymru’n cael eu cynrychioli – a hynny yng nghynnwys S4C yn ogystal ag yn ein gweithgarwch corfforaethol.
Wrth gyflawni’r strategaeth uchelgeisiol hon, ymhlith uchafbwyntiau 2023–24, cafodd S4C a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru eu henwebu am wobr Celfyddydau a Busnes Cymru ym mis Mai 2023 am eu cynllun i noddi myfyrwyr o gefndiroedd sy’n cael eu tangynrychioli i astudio yn y Coleg neu i fynd i ysgol berfformio’r Coleg, yn achos disgyblion oed ysgol.
Gwnaeth S4C hefyd gyfraniad amlwg fel un o brif noddwyr Pride Cymru ym mis Mehefin 2023. Ar yr un pryd, darparwyd cynnwys yn gysylltiedig â Pride ar ein holl blatfformau i nodi mis Pride.
Rydyn ni’n falch o’r cynnydd sy’n cael ei wneud wrth i ni barhau ar ein siwrnai tuag at gyflawni Strategaeth 2022–27, ac rydyn ni’n ddiolchgar am gefnogaeth barhaus staff S4C, ein partneriaid yn y sector cynhyrchu, a rhanddeiliaid o bwys.