Sefydlu ein hunain fel cartref profiadau cenedlaethol Cymru

Mae rhaglenni S4C o ddigwyddiadau byw ym mhob rhan o Gymru’n parhau i esblygu, gan ddod â’r genedl ynghyd a sicrhau bod y Gymraeg yn rhan o fywydau pobl – boed nhw’n ei siarad yn aml, o bryd i’w gilydd, neu ddim o gwbl. Ac rydyn ni’n parhau i geisio gwella ein cynnig i’r gynulleidfa – gartref, neu ble bynnag y gallan nhw fod – drwy fwy o gynlluniau ffrydio aml-blatfform.

Ym mis Mehefin 2023, fe wnaethon ni gyhoeddi y byddai S4C yn darlledu gemau pêl-droed rhyngwladol tîm y dynion tan 2028 fel rhan o gytundeb newydd â’n partner Viaplay. Bydd y rhaglenni Cymraeg yn cynnwys dwy ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd UEFA yn 2024–25 a 2026–27, gemau rhagbrofol Cwpan y Byd FIFA 2026, a gemau rhagbrofol Ewro 2028 UEFA. Bydd gemau rhyngwladol cyfeillgar hefyd yn rhan o’r cytundeb a fydd yn golygu darlledu o leiaf 40 o gemau byw ar S4C.

Roedd Cwpan Rygbi’r Byd a gynhaliwyd yn Ffrainc yn hydref 2023 hefyd ymhlith uchafbwyntiau cynnwys chwaraeon S4C yn ystod 2023–24. Darlledodd S4C holl gemau Cymru’n fyw, gyda phenodau arbennig o Jonathan (Afanti) hefyd yn dod â’r cyffro i’r gynulleidfa gartref.

At hynny, cafodd y gynulleidfa gyfle i glywed y diweddaraf o wersyll Cymru drwy vodcast Allez Les Rouges (S4C Chwaraeon) a gyflwynwyd gan Lauren Jenkins. Cafodd penodau wythnosol o’r vodcast eu rhyddhau cyn yr ymgyrch ac yn ystod Cwpan y Byd ei hun drwy sianel YouTube S4C a BBC Sounds.

Drwyddi draw, cyfrannodd y cynnwys a oedd yn gysylltiedig â Chwpan Rygbi’r Byd yn sylweddol at sesiynau gwylio S4C Chwaraeon ar y cyfryngau cymdeithasol. Cafwyd 2.7 miliwn o sesiynau gwylio yn ystod mis Hydref 2023 – yn bennaf ar Instagram a TikTok – a oedd yn gynnydd o 969% ers y flwyddyn flaenorol!

O ran y digwyddiadau cenedlaethol eraill a gafodd sylw, cafodd S4C wythnos hynod o lwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr 2023, gan gyrraedd 254,000 o bobl yng Nghymru – cynnydd o 24% o’i gymharu â 2022.

Ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2023, cynigiodd S4C fwy o ffyrdd o wylio nag erioed, wrth i’r holl gystadlaethau o’r pafiliynau Coch, Gwyn a Gwyrdd gael eu ffrydio’n fyw ar S4C Clic o 08:00 bob dydd tan ddiwedd y cystadlu. Yn ystod yr wythnos, cafodd y ffrydiau byw o’r pafiliynau hyn 77,000 o sesiynau gwylio.

Cafodd y rhaglenni o Eisteddfod yr Urdd (heb gynnwys y ffrydio byw) 80,000 o sesiynau gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer. Ac ar gyfryngau cymdeithasol S4C, cafodd cynnwys yn gysylltiedig ag Eisteddfod yr Urdd dros 1 miliwn o argraffiadau.

Roedd ein darpariaeth o’r Eisteddfod Genedlaethol (BBC Cymru Wales) hefyd yn boblogaidd. Gwelodd S4C gynnydd o 61% yn oriau gwylio cynnwys yr Eisteddfod o’u cymharu â’r flwyddyn flaenorol – sy’n golygu mai yn yr wythnos honno yn 2023 y cafodd S4C y nifer uchaf o oriau gwylio ers 2012.

Roedd sylw S4C i ddigwyddiadau eraill yn ystod haf 2023 hefyd yn boblogaidd, gan gynnwys Tafwyl (Orchard Media), y Sioe Frenhinol (Boom Cymru / Slam Media), Gŵyl y Dyn Gwyrdd (On Par), a Pride Cymru (Boom Cymru), a hynny ar blatfformau amrywiol. Rydyn ni’n gobeithio datblygu ar y llwyddiant hwn yn ystod y digwyddiadau byw a gynhelir yn haf 2024.

Ar lefel gymunedol, aethon ni â Sioe Nadolig Cyw i bump o leoliadau yn mhob cwr o Gymru – Wrecsam, Caerdydd, Caernarfon, Llanelli a’r Drenewydd – gan ddenu cynulleidfa o dros 8,600 o deuluoedd. Parhaodd ein hymwneud â’r gynulleidfa iau yn ystod y flwyddyn newydd drwy ein presenoldeb unwaith eto yng Ngŵyl Cymryd Rhan yn Llandudno – gŵyl sy’n denu dros 3,500 o bobl, gan gynnwys nifer o deuluoedd o aelwydydd iaith gymysg ledled y gogledd.