Ysbrydoli a meithrin talent yng Nghymru

Gan ddatblygu ar bartneriaeth S4C gyda Sgil Cymru, drwy ein cyd-fuddsoddiad ochr yn ochr â Cymru Greadigol, bu modd lansio’r cynllun Criw yn ffurfiol yn ystod 2023–24. Mae’r cynllun hwn yn ceisio rhoi mwy o gyfleoedd i brentisiaid ar gynyrchiadau S4C. Erbyn mis Hydref 2023, roedd pedwar o brentisiaid wedi’u penodi i weithio ar gynyrchiadau S4C o amgylch y gogledd.

Yn ystod 2023–24, ymunodd S4C hefyd â chronfa “Unscripted Screen Skills” sy’n ceisio cynnig hyfforddiant a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau. Mae swm sy’n hafal i 0.25% o wariant pob cynhyrchiad cymwys yn cael ei fuddsoddi yn y gronfa hon, gyda’r gost yn cael ei rhannu rhwng S4C fel darlledwr a’r cwmni cynhyrchu perthnasol.

Rhoddwyd cyfleoedd i ddatblygu talent yng Nghymru hefyd wrth i S4C gydweithio â NFTS Cymru drwy’r cynllun Sinema Cymru. Cynhaliwyd proses gystadleuol yn ystod y flwyddyn i recriwtio’r chwech unigolyn cyntaf a fyddai’n cael hyfforddiant i ddatblygu’u sgiliau sgriptio yn Gymraeg. Dros gyfnod o amser, y gobaith yw creu cyflenwad o bobl sy’n datblygu sgriptiau i’w hystyried fel rhan o gynllun ehangach Sinema Cymru.