Ar ôl i’r Bwrdd Unedol gymeradwyo Strategaeth Fasnachol newydd S4C ym mis Hydref 2022, lansiodd Grŵp Masnachol S4C ddwy gronfa fasnachol newydd yn ffurfiol.
Cyflwynwyd y cronfeydd hyn i’r sector cynhyrchu yn ystod y diwrnodau i’r sector a gynhaliwyd yn ystod 2023–24, a hynny gan y ddau unigolyn a benodwyd i arwain gweithgareddau S4C yn y maes hwn: Claire Urquhart, Pennaeth y Gronfa Cynnwys Masnachol, a Laura Franses, Cynghorwr y Gronfa Twf.
Yn ogystal â chyflwyno’r Strategaeth Fasnachol newydd, dilynwyd proses dendro yn 2023 i benodi asiant i werthu cyfleoedd hysbysebu ar ran S4C. Cafodd Axiom Media y contract a ddechreuodd ar 01 Ionawr 2024. Dros gyfnod o amser, rydyn ni’n gobeithio y bydd ein partneriaeth ag Axiom Media yn arwain at gyfleoedd i greu incwm o gynnwys S4C ar amrywiaeth ehangach o blatfformau.
Yn hyn o beth, mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo gyda’r nod o gyflwyno hysbysebion ar Clic, gan fanteisio ar brofiadau darlledwyr eraill yn y maes hwn. Rydyn ni hefyd yn gofyn am gyngor allanol, arbenigol i greu incwm o hysbysebu yn gysylltiedig â chynnwys S4C ar YouTube a phlatfformau eraill ar y cyfryngau cymdeithasol.
Rai misoedd ar ôl ei lansio, gwnaeth Cronfa Twf Masnachol S4C ei fuddsoddiad cyntaf – yn Kubos Semiconductors, cwmni sy’n datblygu technoleg newydd yn y diwydiant Realiti Estynedig a Realiti Rhithwir. Prynodd S4C gyfran leiafrifol yn Kubos, ochr yn ochr â buddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru a sylfaenydd prif gwmni lled-ddargludyddion Cymru.
Yn y pen draw, nod gweithgarwch masnachol a buddsoddiadau S4C yw creu ffrwd incwm gynaliadwy ychwanegol i wasanaeth cyhoeddus S4C. Mae hyn yn gwneud cyfraniad ariannol pwysig sy’n helpu S4C i fuddsoddi mewn cynnwys a gwasanaethau na fyddai’n bosibl fel arall.