Y llynedd, fe wnaethon ni ymrwymo i ddarparu cynnwys bywiog a chyffrous a fyddai’n difyrru ein gwylwyr ffyddlon yn 2023–24, yn ogystal ag ennyn diddordeb cynulleidfa newydd wrth edrych ar y byd drwy lygaid Cymreig. Cyflawnwyd hyn drwy gynnig cynnwys amrywiol, gan gydbwyso’r rhaglenni poblogaidd sydd wedi ennill eu plwyf â chynnwys newydd, beiddgar.
Ddechau mis Medi 2023, darlledwyd y bennod gyntaf o Anfamol (BBC Studios) ar ein gwasanaeth llinol, gan ryddhau’r bocs set llawn ar yr un pryd ar Clic ac iPlayer. Addasiad i’r teledu oedd Anfamol o ddrama lwyfan Rhiannon Boyle, gyda’r bocs set a ryddhawyd yn arbennig o boblogaidd ymhlith cynulleidfaoedd.
Roedd Pren ar y Bryn (Fiction Factory) hefyd yn gyfres ddrama o bwys yn ystod y flwyddyn. A honno wedi’i hysgrifennu a’i chreu gan Ed Thomas, ffilmiwyd y gyfres chwe rhan ar leoliad yn Ystradgynlais, ac roedd ganddi gast o sêr Cymreig gan gynnwys Rhodri Meilir a Nia Roberts. Fe’i comisiynwyd drwy gydweithio â BBC Cymru Wales, ar y cyd ag All3Media International, a chafwyd buddsoddiad hefyd gan Cymru Greadigol.
Uchafbwynt ein rhaglenni dros Nadolig 2023 a’r Flwyddyn Newydd oedd Siân Phillips yn 90 (Rondo) – ffilm ddogfen yn llawn sêr i ddathlu pen-blwydd Siân yn 90 oed. O ffilmiau Hollywood i’r theatr, teledu a radio, mae Siân Phillips wedi gwneud y cyfan. Siaradodd seren I, Claudius a chyn-wraig Peter O’Toole yn fwy gonest nag erioed o’r blaen am ei bywyd a’i gyrfa hyd yma. Roedd Siân Phillips yn 90 yn boblogaidd ymhlith cynulleidfaoedd yng Nghymru, yn ogystal ag ymhellach i ffwrdd, ar ôl cyhoeddi straeon yng nghyfryngau cenedlaethol y Deyrnas Unedig yn ystod mis Rhagfyr 2023 i gyd-fynd â’r darllediad ar S4C.
Serch hynny, mae’n bwysig cofio bod S4C wedi bod yn gyfrifol am gynhyrchu cynnwys beiddgar ers 1982. Roedd sgandal Horizon y Swyddfa Bost yn ystod 2023–24 yn gyfle i S4C ailddarlledu pennod o Taro Naw (BBC Cymru Wales) o 2009, sef y rhaglen materion cyfoes gyntaf i edrych ar y pryderon yr oedd is-bostfeistri yn eu codi. Yn wir, mae clip o Alan Bates o’r bennod honno o Taro Naw wedi’i gwylio dros 349,000 o weithiau dros y misoedd diwethaf drwy bresenoldeb S4C ar blatfform X.
Parhaodd cynnwys S4C i ennill gwobrau o bwys yn y diwydiant yn ystod 2023–24. Mae rhestr lawn o’r enwebiadau a’r gwobrwyon a enillwyd i’w gweld mewn mannau eraill yn yr Adroddiad Blynyddol hwn. Serch hynny, rydyn ni’n arbennig o falch bod Y Sŵn (Joio) – ffilm sy’n portreadu sut sefydlwyd S4C, ac a ryddhawyd i gyd-daro â deugeinfed pen-blwydd S4C – wedi cael ei henwebu yng nghategori drama sengl orau y Broadcast Awards ym mis Chwefror 2024.
Cafodd ffilm Gymreig arall gan yr un cynhyrchwyr – Gwledd (Joio) – ei darlledu ar y teledu am y tro cyntaf Galan Gaeaf 2023, gan roi cyfle i gynulleidfaoedd S4C fwynhau ffilm a oedd eisoes wedi ennyn cryn glod gan y cyhoedd ynghyd â gwobrwyon rhyngwladol ers ei rhyddhau’n wreiddiol mewn sinemâu.
Maer ddwy ffilm yn pwysleisio pwysigrwydd y diwydiant ffilm yng Nghymru, a’r angen i gynhyrchu mwy o ffilmiau Cymraeg. Am y rheswm hwnnw, mae S4C yn falch o fod yn bartner o bwys yng nghronfa Sinema Cymru i gefnogi ffilmiau nodwedd Cymraeg sydd â photensial i gyrraedd y sgrin fawr yn rhyngwladol. Cronfa yw hon ar y cyd â Cymru Greadigol, ac sy’n cael ei rheoli gan Ffilm Cymru. Ei nod yw datblygu o leiaf dair ffilm nodwedd bob blwyddyn, gyda’r gobaith y bydd un yn mynd yn ei blaen i gael cyllid i’w chynhyrchu.
Dros amser, rydyn ni’n gobeithio darlledu’r ffilmiau hyn ar S4C er budd cynulleidfaoedd yng Nghymru a’r tu hwnt.