Cyflwyniad y Cadeirydd Dros Dro a’r Prif Weithredwr Dros Dro

Guto Bebb, Cadeirydd Dros Dro y Bwrdd; a Sioned Wiliam, Prif Weithredwr Dros Dro

Mae’n bleser gan y ddau ohonom gyflwyno Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon S4C ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024.

Ers dechrau yn ein swyddi dros dro yn ystod mis Ebrill 2024, rydym wedi canolbwyntio ar gynnal sefydlogrwydd mewnol sydd bellach gennym yn dilyn cyfnod heriol. I’r perwyl yna, rydym yn ddiolchgar i Geraint Evans ac Elin Morris am ymgymryd â dyletswyddau’r Prif Weithredwr ar y cyd ddiwedd 2023, ac i Rhodri Williams, y daeth ei gyfnod fel Cadeirydd y Bwrdd i ben ar 31 Mawrth 2024.

Roedd 2023–24 yn gyfnod anodd yn fewnol yn S4C. Fodd bynnag, rydym yn dawel ein meddwl na wnaeth hyn effeithio ar y gwasanaethau y gwnaethom eu cynnig i’n cynulleidfaoedd, a’u gwerthfawrogiad nhw o’n cynnwys – fel mae’r data cynulleidfaoedd a amlinellir yn hwyrach yn yr Adroddiad Blynyddol yn dangos. Mae hyn yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein staff a’r sector cynhyrchu cynnwys y mae S4C yn dibynnu arno.


Rydym yn falch iawn bod gan S4C lechen o gynnwys o ansawdd uchel ar gyfer ein cynulleidfa ar gyfer gweddill 2024–25. Ar y wefan hon, mae ein Prif Swyddog Cynnwys Dros Dro yn amlinellu’r arlwy fydd gennym ar gael i’n gwylwyr ar ein gwahanol lwyfannau yn ystod y misoedd nesaf.

Mae’r cyfrifoldeb dros stiwardiaeth S4C yn ystod y cyfnod anodd hwn wedi bod yn fraint o’r mwyaf, ac rydym yn gobeithio y bydd ein swyddi dros dro hyn yn galluogi proses benodi gyhoeddus i benodi Cadeirydd newydd i’r Bwrdd, a phroses ar wahân i benodi Prif Weithredwr parhaol.

Yn y cyfamser, rydym yn ddiolchgar i bawb am eu cefnogaeth a’u hymroddiad parhaus wrth i ni sicrhau bod S4C yn parhau i ddatblygu, addasu a thyfu, gan gynnig y gwasanaethau gorau i wylwyr ym mhob cwr o Gymru.