Cyfraniad S4C at Gymdeithas a’r Economi

Ers sefydlu S4C yn 1982, mae wedi bod yn ymwybodol iawn o’i gyfraniad at Gymru ac yn ehangach.

Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, mae gennyn ni waith a chyfrifoldeb pwysig fel corff sy’n hwyluso ac yn galluogi, gan ddefnyddio ein hadnoddau i sicrhau’r buddiannau mwyaf i’n gwrandawyr a chymdeithas yn ehangach.

Drwy weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, rydyn ni’n gweithio’n galed i gyfrannu at ddyfodol y Gymraeg, diwylliant, yr amgylchedd a’r economi.

Datganiad Polisi

Ym mis Rhagfyr 2022, cymeradwyodd Bwrdd S4C ddatganiad polisi sy’n dwyn ynghyd gweithgareddau presennol S4C yn nhermau ei gyfraniad cymdeithasol ac economaidd.

Mae’r datganiad polisi hwn yn cyd-fynd â strategaeth gorfforaethol 2022–27 a gymeradwywyd ym mis Mawrth 2022, ac mae blaenoriaethau’r polisi’n adlewyrchu elfennau o’r strategaeth gorfforaethol – a honno’n dangos sut y mae cyfraniad cymdeithasol ac economaidd S4C yn ganolog i weithgareddau ehangach y sefydliad.

Pwrpas Cymdeithasol S4C: Sicrhau fod y Gymraeg yn rhan o fywyd pawb yng Nghymru

Blaenoriaethau Polisi:
“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd”

Cynyddu’r niferoedd sy’n ymwneud â chynnwys S4C yn y Gymraeg, i helpu cyrraedd y filiwn (a dyblu’r defnydd dyddiol)

Adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth

Adlewyrchu cymunedau Cymru drwy osod targedau amrywiaeth clir, yn fewnol ac ar draws ein cynyrchiadau

Creu Gwerth yn Gynaliadwy

Creu gwerth trwy ein hadnoddau i gefnogi’r economi leol; ac wrth wneud hynny, gweithio tuag at leihau ôl troed carbon ein holl weithgareddau

Meithrin Talent

Defnyddio ein hadnoddau a’n dylanwad i feithrin talent oddi fewn i S4C ac yn y sector ehangach, yn ogystal â chefnogi datblygu sgiliau

Cafodd swydd Arweinydd Amrywiaeth, Cynaliadwyedd a Phwrpas Cymdeithasol ei chreu ganol 2023. Ymhlith cyfrifoldebau’r Arweinydd mae arwain gweithgareddau S4C o dan y datganiad polisi newydd hwn, a datblygu strategaethau perthnasol yn ôl y galw.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd”

Ers 1982, mae’r Gymraeg wedi bod yn ganolog i fodolaeth S4C ac yn ganolbwynt i’w holl ddarpariaeth. Mae cyfraniad hollbwysig S4C at gynnal a hyrwyddo’r Gymraeg yn ganolog i ddiben cyhoeddus unigryw y sefydliad, a ffurfiolwyd hyn wrth i S4C gael cadarnhad o’i setliad o dan Ffi’r Drwydded o fis Ebrill 2022 ymlaen.

Mae gennyn ni bellach gyfraniad sylweddol i’w wneud tuag at gyflawni amcanion strategaeth Llywodraeth Cymru, ‘Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr’. Yn benodol, y rhain yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg, a chreu amodau ffafriol i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu. Mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a lofnodwyd rhwng S4C ac uned Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2023 yn ffurfioli’r cyfraniad hwn.

Gan hynny, drwy ein cynnwys, rydyn ni’n awyddus i helpu pobl o bob oed a phob gallu ieithyddol i gyrraedd y Gymraeg a’i defnyddio. Er mwyn cyflawni’r amcanion hyn, yn 2023 fe wnaethon ni ddau benodiad o bwys i swyddi Arweinydd Strategaeth y Gymraeg a’r Gweithredwr Cynnwys Addysg.

Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn perthynas ag addysg, ac rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid o bwys i ddatblygu cynnwys addysgol i gyd-fynd â’r cwricwlwm yng Nghymru a sicrhau bod modd i ddysgwyr ddefnyddio cynnwys S4C – waeth beth yw eu hoedran.

Mae S4C yn darparu cynnwys Cymraeg amrywiol i blant a phobl ifanc – gan gynnig adloniant ac addysg. Wrth wneud hynny, mae ein cynnwys yn gwneud cyfraniad pwysig at normaleiddio’r Gymraeg ym mywydau pob dydd pobl. Er enghraifft, mae cynnwys fel Cywion Bach (Boom Cymru) a Ne-wff-ion (Ceidiog) yn rhoi ffordd hygyrch, llawn hwyl, o ddysgu am y byd yn Gymraeg.

Mae’n hollbwysig bod siaradwyr Cymraeg o bob gallu ieithyddol yn dewis gwylio cynnwys S4C yn rheolaidd. Am y rheswm hwnnw, rydyn ni wedi ymrwymo i gynnig cynnwys bywiog a chyffrous mewn amrywiaeth o genres er mwyn difyrru ein cynulleidfa, a sicrhau bod y Gymraeg yn rhan o fywyd pobl o ddydd i ddydd.

At hynny, mae S4C yn hybu cyflogaeth mewn ardaloedd lle ceir cyfrannau uchel o siaradwyr Cymraeg – yn fewnol yn S4C ac yn y sector cynhyrchu ehangach yng Nghymru. Drwy wneud hynny, mae’n cyfrannu at weithgareddau Cymraeg ac at gynnal gwead cymdeithasol a diwylliannol yr ardaloedd hyn.

 

Adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth

Mae’n hollbwysig bod S4C yn portreadu ac yn dathlu Cymru yn ei holl amrywiaeth ac mae gweithio i gyflawni hyn wastad yn flaenoriaeth i S4C. Mae’r gynulleidfa’n credu bod hyn yn elfen bwysig o waith S4C.

Credai 71% o’r gwylwyr sy’n siarad Cymraeg fod S4C yn sianel a oedd yn llwyddo i adlewyrchu pobl Cymru yn eu holl amrywiaeth yn ystod 2023–24. Yn yr un arolwg y flwyddyn flaenorol, y ffigur cyfatebol oedd 68% (Ffynhonnell: Arolwg Tracio Delwedd S4C, Beaufort Research, 2024).

Er mwyn i S4C barhau i wasanaethu ei chynulleidfa a chynyddu’i maint, yn ogystal â chyfrannu at sector darlledu cryf, mae’r ymrwymiad hirdymor i sicrhau bod cynrychiolaeth ar y sgrin a thu ôl i’r camerâu yn parhau ac yn hollbwysig.

Rydyn ni felly’n gweithio gyda’r sector cynhyrchu i sicrhau bod ein cynnwys yn adlewyrchu ein cymunedau yn eu holl amrywiaeth.

Elfen hollbwysig yn hyn oedd yr holl gynnwys a ddarlledwyd i nodi Mis Hanes Du ym mis Hydref 2023, pan ddarparodd S4C gynnwys fel Sage Todz: Y Neges nid yr Iaith (Afanti), Taith i Gaeredin (Ride it Out), Windrush: Rhwng Dau Fyd (Tinopolis), a Dom a Lloyd: Cymru Heddiw (Carlam).

Dilynwyd dull tebyg i nodi Mis Hanes Anabledd ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr 2023. Ymhlith uchafbwyntiau cynnwys arbennig S4C roedd Y Frwydr: Stori Anabledd (Cardiff Productions), Bwmp (Octagon), a Bex: Stori Efan (Ceidiog).

Mae adborth am sut y mae cynnwys S4C yn llwyddo i adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth hefyd ar gael drwy’r Paneli Amrywiaeth sydd wedi eu sefydlu gan yr Arweinydd Amrywiaeth, Cynaliadwyedd a Phwrpas Cymdeithasol. Hyd yma, mae paneli amrywiaeth ac anabledd wedi’u sefydlu. Mae eu haelodau’n cynnwys cynrychiolwyr o gyrff y sector, yn ogystal ag unigolion dawnus o’r grwpiau gwarchodedig perthnasol.

Mae S4C hefyd wedi ymuno â’r system Diamond sy’n cael ei chydlynu gan y Creative Diversity Network. Dyma’r system sydd wedi cael ei sefydlu gan nifer o ddarlledwyr blaenllaw’r Deyrnas Unedig er mwyn casglu data cyson am amrywiaeth a chynrychiolaeth ar y rhaglenni y maen nhw’n eu comisiynu. Wrth fabwysiadu’r system hon, bwriad S4C yw cynyddu amrywiaeth ar y sgrin a’r tu ôl iddi wrth greu cynnwys S4C, gan adlewyrchu Cymru heddiw.

Yn ogystal â chymryd camau i sicrhau bod ein cynnwys yn adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth, rydyn ni hefyd yn gweithio i gynyddu amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant drwy ein holl waith corfforaethol. Ym mis Hydref 2023, cafodd holl staff S4C hyfforddiant ym maes amrywiaeth. Mae cynlluniau newydd hefyd wedi’u cyflwyno i gynyddu a gwella ymwybyddiaeth o grwpiau amrywiol sy’n cael eu tangynrychioli ac sydd â nodweddion gwarchodedig.

 

Creu Gwerth yn Gynaliadwy

Ochr yn ochr â’n cyfraniad cymdeithasol, mae S4C yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi Cymru.

Buddsoddir dros 77% o gyllid cyhoeddus S4C mewn rhaglenni a chynnwys. Mae hwn yn fuddsoddiad yn y gwasanaethau a ddarperir i’r gynulleidfa ac yn y sector cynhyrchu yng Nghymru.

Rydyn ni’n buddsoddi ac yn comisiynu ein cynnwys gan gwmnïau cynhyrchu ledled Cymru ac mae ein cwmnïau yn y gadwyn gyflenwi yn eu tro yn chwarae rhan bwysig yn eu heconomïau lleol.

Rydyn ni hefyd yn awyddus i gefnogi’r sector i ddatblygu, gan helpu cwmnïau i wireddu eu potensial. Bydd hyn yn ei dro yn cryfhau ein cadwyn gyflenwi. Mae’r camau rydyn ni wedi eu cymryd hyd yn hyn yn cynnwys hwyluso mwy o gydweithio rhwng y cwmnïau mwy a llai – er enghraifft, drwy annog y cwmnïau llai i ddefnyddio adnoddau a chyfarpar sy’n berchen i’r cwmnïau mwy pan na fydd ar y cwmnïau mwy eu hangen.

Ar yr un pryd, ymhlith amcanion eraill, mae strategaeth fasnachol newydd S4C yn ceisio cyfrannu at ffyniant economaidd Cymru drwy sefydlu cronfa dwf i fuddsoddi mewn cwmnïau sydd â photensial i dyfu ac sy’n cyd-fynd â phwrpas S4C.

Mae crynswth yr holl weithgaredd hyn felly’n golygu bod cyfraniad S4C at economi Cymru yn sylweddol – ac mae’n bwysig bod y cyfraniad hwnnw’n cael ei deimlo ym mhob cwr o Gymru.

Ein hamcan yw gwario dros 95% o’n cyllideb ar gyfer cynnwys gyda chynhyrchwyr sydd wedi eu lleoli yng Nghymru. Yn 2023–24, llwyddon ni i wario 99% o’r gyllideb ar gyfer cynnwys oddi fewn i Gymru (2022–23: 100%).

 

 

Mae’r data uchod yn berthnasol i leoliad swyddfeydd y cwmnïau cynhyrchu, ac nid yw’n adlewyrchu gweithgarwch cynhyrchu neu wariant mewn lleoliadau ar draws Cymru. Gwnaethom gynnal adolygiad manwl o’r lleoliadau perthnasol ar gyfer pob cynhyrchiad yn ystod 2023–24 – mae’r data a ddarperir uchod yn adlewyrchu canlyniad yr adolygiad hwnnw, ac mae’r ffigurau ar gyfer 2022–23 wedi’u hail-greu i ddarparu cymhariaeth gywir.)

Wrth gwrs, wrth fynd ati i gefnogi a buddsoddi yn nhwf economaidd Cymru, mae S4C yn ymwybodol iawn o’r angen i wneud hynny mewn ffordd sy’n amgylcheddol-gynaliadwy.

Ers mis Medi 2021, er mwyn cyflawni hyn, mae gan S4C bartneriaeth gyda chonsortiwm BAFTA albert, sef cymdeithas o rai o gwmnïau cynhyrchu a darlledwyr mwyaf y Deyrnas Unedig, ac rydyn ni’n ceisio ymgorffori cynaliadwyedd yn ein proses gynhyrchu drwy wneud y canlynol:
• Gorfodi’r defnydd o gyfrifiannell ôl-troed carbon albert yn yr holl gynnwys y byddwn ni’n ei gomisiynu; ac
• Annog cynyrchiadau i gwblhau proses ardystio albert.

Daeth yn orfodol o 01 Ionawr 2022 i gwmnïau sy’n cynhyrchu cynnwys i S4C gydymffurfio â’r gofynion uchod (heblaw bod y cynhyrchiad yn gyfres o dan 15 munud o hyd a / neu fod cyfanswm y gyllideb yn llai na £50,000).

Yn sgil ein partneriaeth gydag albert, roedd S4C yn un o 12 o ddarlledwyr a ffrydwyr a ddaeth ynghyd ym mis Tachwedd 2021 i ymrwymo i’r Addewid Cynnwys Hinsawdd, a oedd wedi’i drefnu gan albert. Dyma’r tro cyntaf i’r diwydiant weithio ar y cyd ar ddatganiad o’r fath.

Mae S4C a’r llofnodwyr eraill – sy’n cynnwys y BBC, BBC Studios, Britbox International, Channel 4, Channel 5 / ViacomCBS, Discovery UK and Eire, ITV, RTE, Sky, STV, ac UKTV – wedi ymrwymo i ddefnyddio ein cynnwys i helpu cynulleidfaoedd i ddeall beth allai mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ei olygu iddyn nhw, yn ogystal â rhoi gwybodaeth i bobl a’u hysbrydoli i wneud dewisiadau cynaliadwy.

Oddi ar y sgrîn, mae S4C yn gweithio i leihau effaith gwaith corfforaethol y sefydliad ar yr amgylchedd. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi cymryd camau i leihau teithio ble nad oes angen, a chynyddu’r defnydd o fideo-gynadledda. Anogir y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus cymaint â phosib.

Ein nod yw lleihau effaith amgylcheddol ein gwaith corfforaethol dros y blynyddoedd nesaf ymhellach, a chytuno yn y pen draw ar ddyddiad targed er mwyn cwblhau’r trawsnewid i weithredu ar sail sero net o ran carbon.

 

Meithrin Talent

Ers y cychwyn cyntaf, mae S4C wedi chwarae rôl greiddiol yn datblygu talent a sgiliau o fewn y sector yng Nghymru.

Mae natur comisiynu S4C fel cyhoeddwr-ddarlledwr nad yw’n creu ei gynnwys ei hun wedi galluogi ein partneriaid cynnwys i fuddsoddi yn natblygiad sgiliau eu staff dros y blynyddoedd. Ac mae S4C ei hun yn parhau i fuddsoddi ac arwain y ffordd er mwyn cefnogi’r nod hwn.

Mae cefnogi pobl o bob cefndir i ddod i weithio yn y sector hefyd yn flaenoriaeth i S4C. Rydyn ni felly’n falch o fod wedi parhau i weithio gyda phartneriaid fel It’s My Shout, Screen Alliance Wales a Gyrfa Cymru yn ystod y cyfnod adrodd i wireddu hyn, ac yn falch hefyd o fod wedi bod yn rhan o’r cynllun peilot RAD Cymru Wales – cynllun hyfforddi gyda thâl i bobl o gefndiroedd sy’n cael eu tangynrychioli.

Ochr yn ochr â Cymru Greadigol a darlledwyr eraill, mae S4C hefyd yn un o brif gefnogwyr Cynllun Carlam Cymru – rhaglen ddatblygu i roi hwb i yrfaoedd cynhyrchwyr di-sgript drwy leoliadau sy’n cynnig tâl, rhannu gwybodaeth am gomisiynu, hyfforddiant a chomisiynu, a chyfleoedd mentora gan y diwydiant.

Rydyn ni hefyd wedi ffurfioli ein partneriaeth gyda Sgil Cymru, a buddsoddwyd ar y cyd â Cymru Creadigol yn y cynllun Criw i roi mwy o lefydd i brentisiaid ar gynyrchiadau S4C.

Mae’r holl weithgareddau hyn yn ein helpu i gynnal gweithlu medrus iawn sy’n sail i sector cynhyrchu o’r radd flaenaf yng Nghymru, a hwnnw’n denu cynyrchiadau teledu, ffilmiau a chynnwys digidol o wledydd ledled y byd.

 

Gwerthuso Cyfraniad Cymdeithasol ac Economaidd S4C

Wrth gymeradwyo’r datganiad polisi am Gyfraniad Cymdeithasol ac Economaidd S4C, fe ymrwymodd Bwrdd S4C i gomisiynu asesiad o effaith economaidd a chymdeithasol S4C bob dwy flynedd, er mwyn sicrhau gwerthusiad annibynnol o’r effaith hwnnw.

Yn ystod gwanwyn 2023, penodwyd cwmni Wavehill i gynnal gwerthusiad annibynnol o effaith economaidd a chymdeithasol S4C yn ystod blwyddyn ariannol 2022–23. Cyflwynodd Wavehill eu canfyddiadau cychwynnol i Fwrdd S4C yn hydref 2023, cyn i’w hadroddiad dilynol gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2024.

Yn eu hadroddiad annibynnol, dywedodd Wavehill: “Mae gan S4C ôl troed sylweddol o fewn ac ar draws cymunedau lleol ledled Cymru yn ei rôl fel cyflogwr, comisiynydd a sefydliad angori o fewn diwydiant y cyfryngau yng Nghymru”.

Ymhlith y prif ganfyddiadau a gyflwynwyd yn adroddiad Wavehill roedd:

Cyflogwr lleol gyda swyddi o ansawdd uchel
Mae S4C yn cyflogi 118 o swyddi cyfwerth ag amser llawn (FTE) o ansawdd uchel sy’n talu’n dda, yn bennaf yng Nghaerdydd, Sir Gaerfyrddin, Gwynedd a Cheredigion. Mae dros hanner y swyddi hyn wedi’u lleoli mewn ardaloedd cymharol ddifreintiedig lle mae enillion cyfartalog is na chyfartaledd Cymru a’r Deyrnas Unedig.

Cyfrannwr sylweddol at economi Cymru a’r Deyrnas Unedig
Drwy ei gweithrediadau o ddydd i ddydd, gwariant ar y gadwyn gyflenwi a chyflogau, ac effaith ymwelwyr, amcangyfrifir bod gweithgareddau S4C yn 2022–23 wedi cefnogi 1,900 o swyddi FTE ac wedi cynhyrchu £135.6m mewn gwerth ychwanegol gros yng Nghymru. Mae’r effaith hon yn codi i 2,300 o swyddi a £157.2m mewn gwerth ychwanegol gros ledled y DU. Mae hyn yn awgrymu bod ychydig dros 1 o bob 7.6 swydd yn is-sector ‘Ffilm, Teledu, Radio, a Cherddoriaeth’ Cymru yn cael ei chefnogi gan S4C; a bod cyfanswm ei chyfraniad i werth ychwanegol gros Cymru yn cyfateb i 42% o is-sector ‘Ffilm, Teledu, Radio, a Cherddoriaeth’ Cymru a 0.2% o gyfanswm gwerth ychwanegol gros Cymru gyfan yn 2022.

Cost-effeithlon a gwerth am arian
Nid yn unig y mae S4C yn un o’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus mwyaf cost-effeithlon yn y DU, gyda chost yr awr yn sylweddol is na darlledwyr eraill, ond mae ei gweithgareddau’n cynhyrchu refeniw treth sy’n fwy na’r arian y mae’n ei dderbyn – am bob £1 punt o gyllid ffi’r drwydded y mae S4C yn ei derbyn, mae £1.02 yn cael ei gynhyrchu mewn treth i Drysorlys Ei Fawrhydi.

Elw da ar fuddsoddiad
Am bob £1 o gyllid ffi’r drwydded a dderbyniodd S4C, cynhyrchodd y darlledwr £1.53 mewn gwerth ychwanegol gros yng Nghymru, gan godi i £1.77 yn y Deyrnas Unedig.

Hybu a meithrin talent
Trwy ei dylanwad a’i phartneriaethau strategol ei hun â sefydliadau fel TAC, Cynghrair Sgrin Cymru, Cymru Greadigol, y BBC, ac ITV, mae S4C yn chwarae rhan ganolog wrth feithrin ac arwain tirwedd hyfforddi a phrentisiaethau sector diwylliannol Cymru. Mae S4C yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus a phrentisiaethau, nid yn unig i gefnogi’r gweithlu presennol ond hefyd i feithrin talent newydd drwy gefnogi pobl ifanc i mewn i’r diwydiant, gan sicrhau sector creadigol cadarn a medrus yng Nghymru i’r dyfodol.

Ffigwr amlwg yn y gymuned fusnes yng Nghymru
Yn 2022–23, gwariodd S4C dros £104.5 miliwn gyda 977 o gyflenwyr yn rhychwantu 47 o sectorau gwahanol. Roedd y cyflenwyr hyn yn amrywio o gynhyrchwyr cynnwys i gyflenwyr swyddfa i gwmnïau marchnata. Cafodd tair o bob pedair punt eu cyfeirio at gyflenwyr sydd â’u pencadlys yng Nghymru neu sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. O’r £78.6m a wariwyd yng Nghymru, roedd mwy na hanner i gyflenwyr sydd wedi’u lleoli y tu allan i Gaerdydd.

Galluogi economi Gymraeg
Mewn arolwg, nododd cyflenwyr uniongyrchol S4C fod siarad Cymraeg yn sgil hanfodol i 75% o’u cyflogeion.

Llesiant cenedlaethau’r dyfodol
Mae S4C wedi ymrwymo i greu gwerth cymdeithasol o’i gweithgareddau gan gynnwys cynhyrchu, hyrwyddo a rhaglennu ar gyfer ei chynulleidfaoedd, cymunedau lleol a phobl Cymru. Mae effeithiau cymdeithasol y cwmni yn cyd-fynd â’r saith nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Llywodraeth Cymru, ac yn cyfrannu’n uniongyrchol atynt.

Mae Bwrdd S4C yn bwriadu comisiynu Wavehill i gynnal asesiad annibynnol arall yn ystod 2025, gan ddefnyddio data o flwyddyn adrodd 2024–25 a thrwy hynny roi cyfle i werthuso llwyddiant S4C wrth gryfhau ymhellach gyfraniad cymdeithasol ac economaidd y sefydliad.