Mae S4C yn gwasanaethu’r gynulleidfa gyda chynnwys sydd yn diddanu, yn cyffroi ac yn adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth.
Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mae gennym ddyletswydd i greu’r platfform ac ecosystem i sbarduno’r diwydiannau creadigol yng Nghymru i greu cynnwys uchelgeisiol ac unigryw sy’n apelio i bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol.
Nod S4C yw bod yn gyrchfan ar gyfer cynnwys Cymraeg creadigol, gafaelgar a deniadol sydd ar gael i’w fwynhau ar amryw o lwyfannau yng Nghymru a thu hwnt.
Datganiad Polisi Rhaglenni 2024-25
Wedi gosod sylfeini cadarn i’n strategaeth gynnwys ar bileri chwaraeon, drama a chynnwys plant, byddwn yn adeiladu ar y llwyddiannau hynny gyda chynnwys swnllyd a phoblogaidd fydd yn targedu gwylwyr iau 25-44 a chynulleidfaoedd C2DE. S4C fydd cartref holl gemau pêl-droed dynion Cymru, dramâu gafaelgar fel Bariau a fformatau poblogaidd fel Y Llais, fydd yn cael cartref newydd Cymraeg ar y sianel.
Byddwn yn denu cynulleidfa o bob rhuglder a’r di-gymraeg gyda’r hawliau chwaraeon unigryw sydd wedi eu sicrhau a byddwn yn buddsoddi mewn cyfresi drama a ffilm fydd yn torri tir newydd ac yn dod a bri i S4C. Hefyd byddwn yn creu cynnwys aml-blatfform i ddysgwyr i chwarae’n rhan yn y nod i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Bydd ein ffocws ar ddatblygu amlygrwydd ac argaeledd S4C ar blatfformau digidol a byddwn yn mireinio ein strategaeth YouTube er mwyn sicrhau cyrhaeddiad ehangach i gynnwys Cymraeg.
Mewn blwyddyn etholiad cyffredinol bydd miniogrwydd newyddiadurol i’n cynnwys newyddion a materion cyfoes, a byddwn yn parhau i gomisiynu dogfennau pwerus fydd yn adlewyrchu rhai o’r heriau sy’n wynebu ein cymunedau.
Nid un sianel yw S4C. Bydd cynnwys S4C yn cyrraedd cynulleidfaoedd gwahanol ar S4C Clic, iPlayer, YouTube a’r holl lwyfannau cymdeithasol.
Drama
Wedi cyflwyno mwy o amrywiaeth i’n cynnwys drama yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gyda chyfresi 30 munud a ffilmiau byddwn yn adeiladu ar y llwyddiant hynny.
Cafwyd ymateb arbennig gan gynulleidfa eang i gyfres gignoeth a phwerus Bariau gan Rondo, oedd wedi ei chyhoeddi fel bocset (6×30). Bydd yn dychwelyd am ail gyfres ac yn cael ei ffilmio eto yn stiwdio Aria yn Sir Fon.
Bydd Dal y Mellt gan VOX Pictures yn dychwelyd. Wedi i’r gyfres gyntaf gael ei phrynu gan Netflix, y ddrama Gymraeg gyntaf erioed i ymddangos yno, mae’r ail gyfres eisoes wedi ei gwerthu i ffrydwyr rhyngwladol Topic ac SBS yn Awstralia.
Fe welwn dair cyfres newydd gan dri chwmni gwahanol. Mae Creisis gan BOOM Cymru mewn cydweithrediad gyda’r awdures Anwen Huws yn gorwynt o emosiwn a hiwmor tywyll. Drama (6×60) sydd yn cwestiynu natur y gofal i’r mwyaf toredig a bregus yn ein cymdeithas ni heddiw.
Cyfres ddrama newydd gan yr awdur llwyddiannus Cath Tregenna yw Cleddau, sy’n cyfuno dirgelwch llofruddiaeth afaelgar â stori garu drydanol. Mae’r gyfres drosedd wedi ei lleoli ym Mhenfro, yn cael ei chynhyrchu gan BlackLight Television mewn cydweithrediad â Banijay Rights. Bydd yn cael ei saethu yn Gymraeg a Saesneg, gyda’r ddau fersiwn yn cael eu dosbarthu’n fyd-eang gan Banijay Rights.
Bydd y tîm tu ôl i’r gyfres boblogaidd Craith, Severn Screen, yn ôl gyda chyfres newydd sbon wedi ei leoli yng Nghasnewydd. Mae Ar y Ffin yn dilyn ynad ifanc sydd dan bwysau yn ei gwaith yn y llys oherwydd cysgod o’i gorffennol sydd yn bygwth ei bywyd a’i theulu. Y gobaith y bydd y ddrama ddirdynnol hon yn denu gwylwyr cymysg a C2DE oherwydd ei natur, arddull a’r lleoliad.
Mi fydd hi’n adeg dathlu yng Nghwmderi ym mis Hydref wrth i Bobol y Cwm ddathlu ei phen-blwydd yn 50 gyda phennod arbennig. Mae’r garreg filltir hon yn gyfle i hyrwyddo cyfres hynaf y sianel, sy’n parhau yn boblogaidd. A bydd Rownd a Rownd yn parhau i fynd o nerth o nerth. Mae’r gyfres yn dal i ddenu gwylio uwch na’r arfer ymysg plant, pobl ifanc 16 a 24, a’r llai rhugl eu hiaith o gartrefi cymysg.
Bydd cyfnod o ddatblygu ein llechen dramâu i bobl ifanc 13-15 yn cychwyn yn 2024. Yr uchelgais yw denu’r ddemograffeg hon yn ôl i’r Sianel gyda dramâu a gwerthoedd cynhyrchu uchel, sydd yn caniatáu i bobl ifanc Cymru ‘weld’ eu hunain ar y sgrin o ran teip, iaith, amrywiaeth a diwylliant.
Byddwn yn datblygu ein cynlluniau ar gyfer ein Ffilm Ryngweithiol gyntaf erioed mewn partneriaeth gyda Wales Interactive. Ac ar ôl derbyn dros 30 o geisiadau, byddwn yn datblygu sgriptiau ar gyfer 4 ffilm newydd dan gynllun arloesol SINEMA CYMRU, ac yn cyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn pa ffilm fydd yn cynhyrchu yn 2025. Mi fydd hyn yn ddechrau ar adeiladu catalog sinematig o straeon Cymreig i’r gynulleidfa bresennol ac i genedlaethau’r dyfodol wedi’u creu gan leisiau unigryw a chreadigol Cymru. Straeon pwerus sydd â theimlad lleol ond ag apêl fyd-eang.
Chwaraeon
Wedi sicrhau’r hawliau ecsgliwsif ar deledu rhad ac am ddim i gemau pêl droed dynion Cymru o 2024-28, bydd y cytundeb newydd yn dechrau fis Medi gyda’r rownd nesaf o gemau yng Nghynghrair y Cenhedloedd. Ond cyn hynny bydd dwy gêm fawr gan Gymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd wrth geisio cyrraedd Ewro 2024 yn yr Almaen. Bydd y ddwy gêm hynny yn fyw ar S4C, ac wrth gwrs y gemau o’r Ewros os fydd Cymru yno.
Byddwn yn parhau i gynyddu’r sylw i bêl-droed menywod. Byddwn yn dangos uchafbwyntiau o bob gêm ryngwladol, ac yn dangos mwy nag erioed o gemau domestig o gynghrair Adran Genero yn fyw ar S4C. Bydd Sgorio hefyd yn parhau a’r sylw i uwch-gynghrair y dynion, y Cymru Premier a hynt a helynt y prif glybiau yn y gemau cwpan Ewropeaidd.
Wedi torri’r record ar gyfer y nifer mwyaf o wylwyr i gynnwys S4C ar BBC iPlayer ddwywaith yn 2024 gyda gemau o Gwpan FA, byddwn yn anelu unwaith eto i gael yr hawliau i ddangos gemau timoedd o Gymru yn y gystadleuaeth boblogaidd yma, yn ogystal â’r hawliau ar gyfer ambell i gêm o gynghrair Lloegr.
O ran y rygbi rhyngwladol, byddwn yn darlledu gemau 6 Gwlad dynion Cymru a Chymru dan 20, a byddwn yn dilyn rhanbarthau Cymru yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig a chwpanau Ewrop. Byddwn yn parhau i roi sylw i rygbi llawr gwlad gyda gemau’r Indigo Prem, yn ogystal â gemau’r Ffordd i’r Principality a gemau’r Varsity i fenywod a dynion. Byddwn hefyd yn dilyn tîm menywod Cymru i gystadleuaeth ryngwladol y WXV.
Dilynwn Elfyn Evans wrth iddo rasio yn y WRC ar Ralio, a byddwn yn ôl yn Ffrainc ar gyfer y Tour de France 2024 wrth i Geraint Thomas frwydro am le ar y podiwm unwaith eto.
Adloniant
Mae hon yn genre eang gyda nifer o’i brandiau ac wynebau’n drysorau’r Sianel. Yn eu plith Priodas Pum Mil sydd bellach ar ei 8fed cyfres ac yn parhau i ddenu cynulleidfaoedd teuluol, gwerthfawrogiad uchel a ffigyrau iach yn llinol a dal i fyny. Mi fydd y fformat yn cyflwyno sbesial Nadolig Priodas 15k lle fydd pâr lwcus haeddiannol yn cael ei dewis gan y gynulleidfa mewn ymgyrch ddigidol. Yn ogystal mae Am Dro yn dychwelyd gydag ambell sbesial, gan gynnwys Am Dro ‘Steddfod’ a brofodd yn boblogaidd llynedd yn ardal yr Ŵyl. Hefyd Jonathan, sy’n dathlu ei phen-blwydd yn ugain ar y Sianel, gyda’r gyfres yn mynd ar daith ar hyd Cymru yn yr Hydref.
Yn yr un modd bydd Colleen Ramsey yn dychwelyd yn dilyn ymateb positif i’w chymeriad hoffus a’i hapêl at siaradwyr newydd. I’n diddanu â’i hiwmor arbennig bydd Elis James yn perfformio sioe stand-yp o’r Lyric i’w darlledu dros y Nadolig.
Mae’n bwysig sicrhau ein bod yn dod o hyd i’r fformatau swnllyd a llwyddiannus nesaf sy’n gwireddu’r strategaeth ac yn apelio at yr oedrannau 25 – 44. Mae Kiri, Chris ac Alun yn Seland Newydd yn driawd annisgwyl, llawn direidi gyda’r nod o apelio’n iau a denu gwylwyr newydd wrth i ni ddilyn eu hantur. Mae sioe garu newydd Amour a Mynydd hefyd wedi ei chomisiynu ar draws y llwyfannau at yr oedran yma – fformat rig wedi ei lleoli yng nghanol yr eira yn yr Alpau gydag Elin Fflur yn cyflwyno ynghyd ag wyneb newydd i’r sianel, Gwil.
Byddwn yn dod â fformat cyfarwydd iawn tu allan i Gymru i S4C yn chwarter olaf y flwyddyn – Y Llais. Fel Gogglebocs Cymru, sydd eto’n dychwelyd eleni, y bwriad yw y bydd brand adnabyddus a phoblogaidd fel hon yn rhoi llwyfan i gynulleidfa ehangach wrth ddathlu holl amrywiaeth ein talentau ond gyda phersonoliaeth unigryw Gymreig yn ganolog ynddi.
Cerddoriaeth a Digwyddiadau
Yn flynyddol, mae’r digwyddiad byw Cân i Gymru yn uno’r genedl a chreu sŵn ar draws ein llwyfannau. Eleni, heb newid calon y gystadleuaeth caiff egni a brandio newydd a hynny o leoliad cyffrous Arena Abertawe. Cystadleuaeth arall sy’n dychwelyd ydi Côr Cymru – fformat sy’n dathlu talentau corawl Cymru.
Mae S4C yn parhau yn ‘Gartref Digwyddiadau Byw Cymru’ ar bob llwyfan. Yn dilyn llwyddiant llynedd mae Eisteddfod yr Urdd eto’n ddyddiol ffrydio’r holl gystadlaethau ar draws y 3 pafiliwn yn ogystal â’r oriau o gynnwys llinol yn dathlu cyffro’r Ŵyl.
Bydd arlwy’r Eisteddfod Genedlaethol yn parhau i esblygu gan adlewyrchu’r Ŵyl ehangach yn ogystal â’r cystadlu gydol y dydd. Bydd sialens wasgaredig safle Pontypridd yn gofyn am ddulliau creadigol o weithio gan y timoedd cynhyrchu. Eto, byddwn yn ffilmio nifer o’r digwyddiadau a’r cyngherddau cerddorol o lwyfannau’r maes a’u darlledu dros y flwyddyn.
Mae brand S4C LWP yn tyfu o ran amlygrwydd fel Cartref Cerddoriaeth Gyfoes Cymru ac yn cymryd rôl flaenllaw yn ein gwyliau. Mae hyn yn cynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol a Tafwyl ac eto bydd S4C yn noddi Llwyfan y Maes a llwyfannau Tafwyl. Y gobaith yw ffrydio mwy o gerddoriaeth byw o Tafwyl a thyfu ar lwyddiant llynedd dan faner Yn Fyw ac yn Fwy. Mae Curadur, Yn y Lŵp a’n buddsoddiad helaeth yn Fideos Cerddoriaeth Lŵp yn cyfrannu’n sylweddol at y sin yng Nghymru ac yn helpu meithrin talent newydd cerddorol.
Newyddion a Materion Cyfoes
A hithau’n flwyddyn etholiad cyffredinol, bydd sylw arbennig i’r frwydr wleidyddol mewn rhifynnau arbennig o’r Byd yn ei Le a Phawb a’i Farn. Clywn leisiau a safbwyntiau o bob cwr o Gymru hefyd ar Newyddion S4C a rhaglen ganlyniadau cynhwysfawr dros nos yn llinol ac yn ddigidol.
Byddwn yn adolygu ein gweithgareddau Newyddion Digidol er mwyn cefnogi twf ein presenoldeb ar blatfformau Tik Tok, Instagram ac Youtube, gan barhau i fanteisio ar y twf a’r llwyddiant mae ein gwasanaeth wedi ei gael drwy bostio’n ehangach ar Facebook. Y nod yw dod â gwasanaeth newyddion dibynadwy a phoblogaidd yn y Gymraeg i gynulleidfa iau.
Byddwn hefyd yn cydweithio gyda’r BBC sy’n darparu’r gwasanaeth newyddion llinol i sicrhau bod ein gwasanaeth yn unigryw ac yn perthyn i’r sianel, a bod y timoedd llinol a digidol yn cyd-dynnu i ddarparu gwasanaeth heb ei ail wrth i’r newyddion dorri.
Bydd dogfennau materion cyfoes unigol BYD Eithafol yn cael eu cyflwyno gan Maxine Hughes. Un yn edrych ar ddylanwad efengyliaeth ar wleidyddiaeth yn America ac yma yng Nghymru, ac ar drothwy’r gemau Olympaidd bydd Maxine yn trafod y dadleuon o blaid ac yn erbyn caniatáu i athletwyr trawsrywiol gystadlu ar lefel broffesiynol.
Wedi ennill Bafta Cymru llynedd, bydd Y Byd ar Bedwar, yn dal pobl i gyfri, gan sicrhau ystod eang o bynciau sy’n apelio at gynulleidfa amrywiol o ran oedran a statws cymdeithasol. Bydd Ffermio yn parhau i graffu ar faterion amaethyddol, a bydd Jess Davies yn dychwelyd i edrych ar faterion cyfoes drwy lygaid pobol iau.
Wedi ail-frandio’n gwasanaeth newyddion i blant, Newyddion Ni, byddwn yn datblygu’r fformat ymhellach drwy gynnig rhifynnau arbennig estynedig ar draws y flwyddyn.
Ffeithiol
Bydd gennym ddogfennau trawiadol, cyfresi newydd a chyd-gynyrchyddion uchelgeisiol ar ein llechen ffeithiol.
Ymysg y ffilmiau gwir drosedd bydd Llofruddiaeth Y Bwa Croes yn Sir Fôn a bydd stori un o dwyllwyr mwyaf llwyddiannus y byd yn dod yn fyw yn Con Jones wrth i ni ddilyn llwybr troseddol ar draws sawl degawd a sawl cyfandir.
Yn ystod mis hanes pobl ddu bydd Yr Actor a’r Eicon yn cymharu bywyd Betty Campbell yng Nghymru Y Ganrif Ddiwethaf, gyda bywyd yr actores Kim Abodunrin gafodd ei magu fel yr unig ferch ddu mewn pentref yng nghefn gwlad Cymru yn y nawdegau. Tra bod Caethwas Yn Y Teulu yn dilyn siwrne Nathan Brew i Ghana i olrhain hanes un o’i gyndeidiau oedd yn un o fasnachwyr caethweision mwyaf y ddeunawfed ganrif.
Wrth ddatblygu strategaeth cyd-gynhyrchu bydd Gronynnau Heddwch/Particles of Peace yn plethu dylanwad y Cymry ar ganolfan wyddonol CERN yn y Swistir, gyda mynediad unigryw i arbrawf gwyddonol fwya’r byd.
Yn y ddogfen Ken y Sheriff, cawn gipolwg unigryw ar frwydr cyn-gapten Cymru Ken Owens am ffitrwydd wrth i’w yrfa ddisglair ddirwyn i ben.
Ymhlith ein cyfresi newydd bydd Cyfrinachau’r Llyfrgell yn rhoi cyfle i unigolyn adnabyddus ddod i wybod mwy am eu hunain, eu cynefin, a’u hachau drwy drysorau’r Llyfrgell Genedlaethol. Ac am y tro cyntaf erioed bydd Ar Brawf yn dod â mynediad ecscliwsif i staff a chleientiaid Gwasanaeth Prawf Gwynedd mewn cyfres heriol a beiddgar.
Bydd Kristoffer Hughes yn teithio’r byd yn edrych ar agweddau pobl tuag at farwolaeth. Yn Marw gyda Kris byddwn yn edrych ar draddodiadau diwedd oes yn India, Mecsico, Indonesia a Chymru mewn cyfres ymchwilgar, meddylgar a doniol.
Wyneb cyfarwydd arall sydd wrth galon Troseddau Cymru gyda Siân Lloyd wrth i’r newyddiadurwr sydd hefyd wedi hyfforddi yn y gyfraith edrych nôl ar chwe achos sydd wedi trawsnewid y gyfraith, yr heddlu neu ni fel cenedl. A bydd Steffan Powell yn rhannu rhai o olygfeydd godidocaf Cymru sydd mewn peryg, yn Colli Cymru i’r Môr, ac yn darganfod rhai o’r ymdrechion i amddiffyn yr arfordir mewn cyfres ffeithiol boblogaidd.
Cymry cyffredin sy’n camu i dŷ trawiadol Ni Yw’r Cymry mewn fformat sy’n archwilio pynciau llosg y genedl. Mae ‘na ddadlau ffyrnig a safbwyntiau gwahanol yn cael eu gwyntyllu wrth i saith o bobl geisio tynnu ynghyd a deall ei gilydd wrth drafod testunau sy’n bwysig iddyn nhw.
Pobol Ifanc
Llynedd roedd strategaeth glir i ganolbwyntio ar ddatblygu ffurf fer Hansh i eistedd ar TikTok ac Instagram ac rydym wedi gweld twf aruthrol yn y ffigyrau gwylio ac ymwneud ar y platfformau yma. Bydd y cynnwys yn parhau i greu chwerthin, deall, a thrwbl da wrth i ni ddatblygu lleisiau a thalent newydd. Mae’r cynnwys wedi creu sŵn tu hwnt i’r ffiniau gyda Mared Parry yn holi enwogion ar y carped coch a Gemma Collins yn chwalu Yma O Hyd, gyda’r clipiau yn mynd yn feiral ar TikTok.
Byddwn yn datblygu’r llechen o raglenni ffurf hir dan frand Hansh gan ategu at ein llyfrgell o gynnwys ar alw egnïol, ifanc ac atyniadol; cynnwys sydd hefyd yn rhan annatod o amserlen linol S4C er mwyn denu cynulleidfa iau a newid canfyddiad y cyhoedd o’r sianel draddodiadol. Ar gyfer 24/25 mi fydd y cyfresi poblogaidd Pen Petrol a Grid yn dychwelyd. Bydd dogfennau ffeithiol fel Un Gôl: Iwan Morgan yn edrych ar beldroediwr ifanc sy’n ceisio lansio’i yrfa i fod y Gareth Bale nesa, tra bydd STRIP yn dilyn criw ifanc o’r gogledd ddwyrain wrth iddyn nhw herio confensiwn drwy dynnu ei dillad.
Bydd cyfres adloniant digidol a llinol Tanwen ac Ollie, yn bry ar y wal wrth i’r cyflwynydd tywydd a’r peldroediwr ddod yn rhieni am y tro cyntaf. A bydd y fformat gystadleuaeth Y Tŷ Gwyrdd yn uchafbwynt yn yr amserlen wrth i ni weld ieuenctid Cymru yn brwydro drwy heriau amgylcheddol yn Sir Fynwy.
Plant
Mae cynnwys plant S4C yn dal i fod yr un mor bwysig ag erioed i’r brif strategaeth er mwyn diddanu ein gwylwyr iau, denu siaradwyr newydd i mewn i’n cynnwys ni a chynnal yr iaith. A ninnau’n llenwi 40 awr o gynnwys plant bob wythnos bydd cynnwys difyr o bob math yn dod i’r sgrin eleni.
Fel rhan o arlwy Cyw bydd y gyfres newydd holl gynhwysol ‘Harri’n Helpu’, lle gwelir partneriaeth gyda’r gymdeithas Maketon a phlentyn o ysgol arbennig Pendalar yn y brif ran. Fe welwn hefyd Bledd a Cef sef Dreigiau Cadi yn achosi pob math o helyntion gyda’r trên stem unwaith yn rhagor.
Yn dilyn poblogrwydd y gyfres gyntaf bydd mwy o Gywion Bach a llyfr arall i gefnogi gan y Lolfa. A bydd cyfres newydd lle gwelwn anturiaethau merch fach a’i ffrind gorau sef bochdew wedi ei animeiddio yn ‘Annibendod’. Heb son am y gyfres stiwdio llawn hwyl ‘Dal dy Ddannedd’ a phlant ar draws Cymru yn cael cyfle i gymryd rhan.
I Stwnsh cawn gyfres ddogfen arsylwol am blant a’u ceffylau. Y tro cyntaf i ni arbrofi a chyfres arsylwol o’r fath. A hithau’n 40 mlynedd ers streic y glowyr, bydd rhaglen arbennig gyda Alex Jones ar hanes plant y streic. Yn y maes drama daw’r gyfres ddrama newydd Y Corridor i’r sgrin ddechrau’r haf a dychweliad Itopia ddiwedd y flwyddyn. A bydd cyfres wyddonol gyffrous yn dod i’r sgrin Fis Medi sef ‘Pwy, sut, pam’.
Ynghyd a’n cynyrchiadau gwreiddiol ni fe fydd 2024 yn flwyddyn lle gwelwn ni ffrwyth animeiddiadau y mae S4C wedi bod ynghlwm a nhw yn dod i’r sgrin. Dy ni wedi bod yn gweithio ar y cyd gyda TG4 ar gyfres fytholegol anime o’r enw Li-ban. Ni fydd un o’r darlledwyr cyntaf i ddangos y ddau gymeriad hoffus Brethyn a Fflwff. Ac wrth adeiladu ar ein perthynas gyda Lego fe fydd ail gyfres o Lego Dreamzz a chyfres hollol newydd ar gael i ni yn nes ymlaen yn y flwyddyn gyffrous hon.
Digidol
Ym maes cynnwys digidol mae’r ap Cwis Bob Dydd yn mynd o nerth i nerth. Bydd tymor thematig newydd yn cyd-fynd a phencampwriaeth y Chwe Gwlad cyn i ni ryddhau fersiwn newydd o’r ap gyda nodweddion newydd i gyd-fynd a thymor digwyddiadau’r haf ac i mewn i’r hydref.
Byddwn yn dyblu ein hymrwymiad i gynnwys ar gyfer y gynulleidfa sy’n dysgu Cymraeg. Bydd siaradwyr newydd fel Scott Quinnell yn un o wynebau’r gwasanaeth, a bydd llawer mwy o gynnwys ffurf fer ar ein platfformau digidol er mwyn diddanu a gwasanaethu dysgwyr ar eu siwrne.
Byddwn yn datblygu ein strategaeth gyhoeddi ar YouTube yn ystod y flwyddyn er mwyn ymestyn cyrhaeddiad ein cynnwys ar gyfer cynulleidfaoedd 16-44. Drwy weithio mewn partneriaeth gyda chwmni Little Dot, byddwn yn mireinio’r curadu a’r comisiynu ar gyfer y platfform yma sydd yn debygol o barhau i dyfu yn ei boblogrwydd a’i bwysigrwydd.