Meithrin a chynnal perthynas â’n cynulleidfa oedd ein blaenoriaeth eto yn ystod 2023–24, gan arwain yn ei dro at wneud gwell penderfyniadau comisiynu ar gyfer ein cynnwys.
Gan ddefnyddio’r data sydd ar gael i ni – yn enwedig drwy ein panel BARB, yn ogystal â Clic ac iPlayer – gallwn ni ganfod pa gynnwys sy’n perfformio’n dda ymhlith grwpiau oedran gwahanol yn y gynulleidfa, ac ar wahanol blatfformau.
Yn wir, mae’r ddealltwriaeth well hon o wahanol segmentau ein cynulleidfa yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod ein cynnwys yn apelio atyn nhw ac yn cyd-fynd â’u disgwyliadau. Fel rhan o’r broses gomisiynu, rydyn ni bellach yn gofyn i gynhyrchwyr ddweud at ba segment yn y gynulleidfa y mae disgwyl i’r cynnwys arfaethedig apelio, er mwyn gallu gwneud y penderfyniadau iawn wrth gomisiynu a chyhoeddi.
Bu’r dull hwn yn llwyddiannus yn ystod 2023–24, gyda chynnydd amlwg yng nghyrhaeddiad wythnosol cynnwys S4C yng Nghymru ymhlith y grwpiau oedran 16-24 (+31%) a 25-44 (+2%).
Yn ystod yr un cyfnod, arhosodd ein cyfran gyffredinol o’r gynulleidfa sy’n gwylio’r teledu yn ystod yr oriau brig yn sefydlog, neu’n wir fe gynyddodd, o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol, gydag S4C yn sicrhau cyfran gyfartalog o 7.9% o’r gwylwyr sy’n siarad Cymraeg, a 2% o’r gynulleidfa yng Nghymru. Mae hyn yn cymharu’n dda â darlledwyr llinol eraill.
Fe welson ni gynnydd hefyd yng nghyfran y siaradwyr Cymraeg sy’n gwylio cynnwys S4C yn gyson bob mis, sef cynnydd o 12% ers 2022–23 ym mhob grŵp oedran. I gyd-fynd â hyn, mae siaradwyr Cymraeg yn rhoi sgôr gwerthfawrogi cymharol sefydlog i gynnwys S4C, a hwnnw’n parhau i gymharu’n ffafriol â sgoriau darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill.