Ein Blaenoriaethau Strategol

Cymru a’r Gymraeg

Mae’r iaith Gymraeg yn greiddiol i S4C a’i gwasanaethau. Ein cynnwys yn yr iaith Gymraeg yw’r rheswm mae ein cynulleidfa am ddod atom ni a rhaid sicrhau eu bod nhw am dreulio amser ac aros gyda’n cynnwys.

Mae hyrwyddo’r iaith Gymraeg gyda chynnwys perthnasol felly’n parhau’n flaenoriaeth sylfaenol i S4C ac yn greiddiol i’n bodolaeth. Mae angen sicrhau ein bod yn hwyluso mynediad i a defnydd o’r Gymraeg i bawb o bob oed a gallu ieithyddol.

Mae strategaeth Llywodraeth Cymru ‘Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr Cymraeg’ yn pwysleisio pwysigrwydd S4C yn hynny o beth ac yn ddi-os, mae gan S4C rôl flaenllaw i’w chwarae mewn arwain y ffordd ar draws tair prif thema strategaeth Cymraeg 2050 sef: cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg a chreu amodau ffafriol i sicrhau ffyniant y Gymraeg.

Wrth gadarnhau setliad ariannol S4C o Ffi’r Drwydded ar gyfer y cyfnod o 01 Ebrill 2022, gwnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd gydnabod y cyfraniad allweddol y gall S4C gynnig at gyflawni strategaeth Cymraeg 2050. Rydym felly’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, a phartneriaid allweddol eraill ar gyflawni’r strategaeth hollbwysig hon.

Drwy sefydlu S4C fel cartref profiadau cenedlaethol Cymru, gallwn berchnogi digwyddiadau cenedlaethol – o gerddoriaeth i chwaraeon – ac arwain y sgwrs o’u cwmpas. Yn sgil y digwyddiadau cenedlaethol hyn, gallwn ddenu cynulleidfaoedd mwy amrywiol a siaradwyr newydd, a chynnig mynediad iddynt i ystod ehangach o gynnwys S4C na fyddent fel arfer yn eu hystyried, a thrwy hynny yn cynyddu faint o Gymraeg maent yn ei weld a’i glywed.

 

Amlygrwydd ac Argaeledd

Fel gweddill y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus mae gwasanaeth teledu llinol S4C yn dibynnu’n helaeth ar yr amlygrwydd y mae’n ei gael ar deledu digidol daearol, cebl a lloeren yng Nghymru. Mae sicrhau bod gwylwyr yng Nghymru yn gweld y gwasanaethau sydd yn berthnasol iddyn nhw ar frig y canllawiau rhaglenni electronig yn rhan bwysig o’r broses o gael y gwerth gorau o’r buddsoddiad a wnaed yn y cynnwys. Wrth i arferion gwylio ddatblygu a dibynnu fwyfwy ar lwyfannau digidol, mae’n hanfodol bod S4C yn cael amlygrwydd ar ryngwynebau defnyddwyr digidol a hynny ar delerau teg a rhesymol.

Mae ein strategaeth yn blaenoriaethu sut rydym yn dosbarthu ein cynnwys ar lwyfannau ehangach na’r gwasanaeth llinol traddodiadol er mwyn ymateb i ofynion y gynulleidfa.

 

Ein Cynulleidfa

Mae’r byd darlledu yn fwy cystadleuol nag erioed o’r blaen, gydag amryw o gyhoeddwyr rhyngwladol bellach yn ceisio denu cynulleidfaoedd i’w cynnwys ar draws amryw o blatfformau.

Mae’n rhaid felly i greadigrwydd ac anghenion ein cynulleidfa fod wrth wraidd pob dim mae S4C yn ei wneud – yn ganolbwynt i’n cyfleoedd a phenderfyniadau strategol, ac yn greiddiol i’r ffordd mae S4C yn comisiynu, amserlennu, dosbarthu, datblygu, gwerthu a chyfathrebu. Creadigrwydd ddylai yrru ein penderfyniadau.

Bydd deall ein cynulleidfa drwy gasglu data perthnasol ar eu harferion yn elfen hollbwysig o’r broses, gan ganiatáu i ni bersonoli profiadau unigolion wrth iddynt ymwneud â chynnwys S4C. Yn yr un modd, byddwn yn parhau i gasglu adborth cyson ar werthfawrogiad a theimladau tuag at S4C gan wahanol grwpiau cynrychioliadol, ynghyd ag edrych ar berfformiad cyffredinol ein cynnwys.

Mae gennym syniad da o ddemograffeg ein cynulleidfa, ond mae angen parhau gyda’r dadansoddi a’r craffu i ddod o hyd i nodweddion pellach amdani.

Bydd yr holl ddata a gasglwn yn cael ei dynnu ynghyd mewn dashfwrdd clir, i’w ddefnyddio i lywio ein holl benderfyniadau – er mwyn sicrhau bod yr hyn a wnawn er budd y gynulleidfa.

Drwy ddod i nabod ein cynulleidfa’n well, a sefydlu perthynas â nhw fel unigolion, gallwn deilwra ein cynnwys i sicrhau ein bod yn bodloni eu hanghenion.

Yn ychwanegol, bydd rhoi ffocws arbennig ar gyrraedd cyfran fwy o wylwyr iau ar aelwydydd iaith gymysg yn elfen bwysig o ehangu’r gynulleidfa, ac yn helpu i sicrhau perthnasedd barhaus S4C mewn tirwedd ieithyddol sy’n newid o hyd.

 

Cyhoeddi ein Cynnwys

Mae’r cyfuniad o lwyfannau digidol newydd, ynghyd â darparwyr cynnwys byd-eang newydd, wedi chwyldroi arferion gwylio yng Nghymru fel ym mhobman arall. Mae cynnwys Cymraeg a ddosberthir gan S4C yn gorfod cystadlu gyda chynnwys gan rai o brif gwmnïoedd cynhyrchu’r byd.

Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld ein cynnwys – yn arbennig ein dramâu – yn cael eu gwerthu i ddarlledwyr a llwyfannau eraill ar draws y byd. Rydym am i hyn barhau, drwy gomisiynu cynnwys o’r safon uchaf sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol.

Ar yr un pryd, rhaid i ni ymestyn ein cyrhaeddiad a thyfu effaith ein gwasanaeth o fewn cymunedau. Drwy gomisiynu cynnwys apelgar sy’n ennyn sgwrs, ein bwriad yw cyrraedd cynulleidfa ehangach yn lleol. Yn hynny o beth, byddwn yn parhau i flaenoriaethu cynnwys drama, chwaraeon, a phlant – sydd eisoes wedi profi llwyddiant wrth ddenu cynulleidfa ehangach i S4C.

Rhaid i gynnwys S4C ar ba lwyfan bynnag y mae’n cael ei ddosbarthu fod yn afaelgar ac o ansawdd uchel. Rhaid hefyd dosbarthu cynnwys S4C yn y ffurfiau priodol ac ar y llwyfannau sy’n boblogaidd gyda defnyddwyr. Nid ydym yn meddwl am S4C fel sianel deledu llinol o hyn allan, ond fel dosbarthydd cynnwys Cymraeg ar amrywiaeth o lwyfannau (gyda’r gwasanaeth llinol yn un o’r llwyfannau hynny).

Yn sgìl yr esblygiad hwnnw, bydd ein strategaeth gynnwys hefyd yn esblygu i wasanaethu ein cynulleidfa yn well. Gan ddefnyddio data defnyddwyr i yrru ein penderfyniadau comisiynu byddwn yn cyhoeddi cynnwys beiddgar, difyr sy’n ceisio bodloni anghenion ein cynulleidfa ac yn ysgogi’r meddwl.

Byddwn hefyd yn ystyried y gynulleidfa darged ar gychwyn y broses gomisiynu, er mwyn penderfynu ar ba lwyfan neu gyfuniad o lwyfannau y dylid cyhoeddi’r cynnwys at eu sylw er mwyn cyrraedd y gyfran fwyaf posib o’r gynulleidfa honno. Bydd amrywio’r broses gomisiynu yn y modd yma’n hwyluso ein hymrwymiad i greu mwy o gynnwys digidol yn gyntaf a digidol yn unig.

Yn ychwanegol, bydd y cyfathrebu a’r hyrwyddo o gwmpas y comisiwn hefyd yn cael eu trafod ar gychwyn y broses ddatblygu, er mwyn sicrhau bod pecyn creadigol yn cael ei ddatblygu ar y cychwyn cyntaf ar gyfer bodloni anghenion y gynulleidfa, a’u cyrraedd yn y ffordd fwyaf effeithiol.

 

Amrywiaeth, Cynhwysiant a Chynrychiolaeth

Mae amrywiaeth, cynhwysiant a chynrychiolaeth yn ganolog i holl weithgaredd S4C.

Rhaid i bawb yng Nghymru a thu hwnt sy’n gwylio cynnwys S4C, ar unrhyw lwyfan, deimlo eu bod nhw yn cael eu hadlewyrchu yn ein hamrywiaeth o gynnwys.

Rydym hefyd am weld ein gweithlu a gweithluoedd ein cyflenwyr yn cynnwys yr amrywiaeth ehangaf o bobol, ac rydym yn gweithio gyda chwmnïoedd cynhyrchu a phartneriaid eraill i ddenu talent newydd i’r sector.

 

Cefnogi’r Economi

Fel sefydliad cyhoeddus, mae gan S4C gyfrifoldeb i sicrhau’r budd mwyaf i Gymru o’n dylanwad a’n hadnoddau.

Bydd creu a chynnal partneriaethau pwrpasol gyda darlledwyr eraill ac amryw sefydliadau eraill yn rhan gynyddol bwysig o ddyfodol S4C. Mae angen gweithredu mewn modd mwy strategol a hir dymor gan fachu cryfderau a galluoedd eraill o wahanol sectorau i yrru ein creadigrwydd ac arloesedd ac i’n cynorthwyo i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf.

Law yn llaw â’r strategaeth gorfforaethol hon, rydym hefyd wedi datblygu strategaeth ar gyfer gweithgareddau masnachol S4C. Bydd y strategaeth fasnachol hon yn sicrhau ein bod yn adnabod partneriaid ar draws y byd i gael marchnadoedd newydd i’n cynnwys, ac yn rhoi pwyslais ar gyd-gynhyrchu cynnwys o’r ansawdd uchaf yng Nghymru er mwyn dod â buddsoddiad ychwanegol i’r sector a’r gwerth gorau i gynulleidfa S4C.

Bydd cynnal a chadw partneriaethau diddorol – yng Nghymru, ac yn rhyngwladol – yn ffordd effeithiol o ddatblygu talent, gwella sgiliau, sicrhau amrywiaeth ac ymbweru cymunedau Cymru i deimlo eu bod nhw am fod yn rhan o S4C.