“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd” – gweithio gydag eraill i gyrraedd y filiwn

Mae S4C yn falch o ysgogi siaradwyr Cymraeg newydd, gwella’u hyder i ddefnyddio’r iaith, a chefnogi targed Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Yn ystod mis Mai 2023, gwnaeth S4C waith ymchwil i ddeall yn well anghenion y gynulleidfa sy’n dysgu Cymraeg. Cwblhaodd dros fil o unigolion yr arolwg, ac ar ôl rhagor o ymgynghori gyda sefydliadau fel y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, lansiwyd fersiwn ddiwygiedig o wefan Dysgu Cymraeg S4C ym mis Medi 2023.

Lansiwyd cylchlythyr misol hefyd, sy’n cael ei anfon yn uniongyrchol at y rheini sy’n dysgu Cymraeg ac sy’n awyddus i’w gael.

Yn sgil yr adborth a gasglwyd drwy waith ymchwil S4C, byddai gwylwyr bellach yn gallu dewis cael is-deitlau Cymraeg ar raglen Newyddion S4C (BBC Cymru) o fis Medi 2023 ymlaen. Mae’r opsiwn bellach ar gael i’r rheini sy’n gwylio’r gwasanaeth llinol, ynghyd â ffrwd fyw Clic a’r gwasanaeth dal i fyny.

Wrth gyflwyno is-deitlau Cymraeg, y nod yw ei gwneud hi’n haws i’r rheini sy’n dysgu Cymraeg i ddilyn prif gynnyrch newyddion S4C. O ganlyniad, daeth y rhaglen newyddion wythnosol ar gyfer dysgwyr, sef Yr Wythnos (BBC Cymru), i ben.

Yn ystod 2023, diwygiodd S4C hefyd ei Ganllawiau Cynnwys Cymraeg ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid o bwys ac arbenigwyr allanol. Cafodd y Canllawiau diwygiedig eu cymeradwyo gan y Bwrdd Unedol ar 14 Rhagfyr 2023, a’u rhannu maes o law â’r sector cynhyrchu.

Nid yw ein disgwyliadau creiddiol wedi newid: amcan S4C yw darparu gwasanaeth o ansawdd da yn y Gymraeg.

Mae prif egwyddorion y Canllawiau hefyd yn gyson â’r fersiwn flaenorol, sef:

  • Yr angen i ddefnyddio Cymraeg llafar sy’n naturiol i’r siaradwr wrth sgriptio a chyflwyno.
  • Cefnogi cyfranwyr i siarad Cymraeg sy’n naturiol iddyn nhw.
  • Mae safon y Gymraeg rydyn ni’n ei disgwyl yn dibynnu ar natur a thôn y cynnwys.
  • Mae unrhyw ddefnydd o’r Saesneg yn gofyn am gyfiawnhad golygyddol.