Ers 01 Ebrill 2022, daw holl arian cyhoeddus S4C drwy Ffi’r Drwydded. Mae’r sicrwydd cyllidebol hwn ar gyfer y cyfnod tan ddiwedd Mawrth 2028 – ynghyd â’r £7.5m ychwanegol y flwyddyn a gyhoeddwyd i S4C gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon fis Ionawr 2022 – yn cynnig cyfle i ni drawsnewid S4C at y dyfodol.
Mae ein strategaeth yn seiliedig ar esblygu S4C o fod yn Ddarlledwr Gwasanaeth Cyhoeddus traddodiadol i Gyhoeddwr Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus sy’n berthnasol yn y dirwedd gyfryngau rhyngwladol modern.
Mae’n gofyn i S4C drawsnewid, gan symud o ystyriaethau ‘llinol neu ddigidol’ er mwyn comisiynu cynnwys i’w ddosbarthu ar draws toreth o lwyfannau. Yn hynny o beth, mae’n gynllun beiddgar sy’n herio’r modelau traddodiadol mae S4C a darlledwyr eraill wedi eu dilyn ers degawdau.
Byddwn felly yn ail-flaenoriaethu ein gwariant tuag at gynnwys mwy aml-lwyfan, gan gael y gwerth gorau posib am arian i’n cynulleidfa ar draws amryw o lwyfannau, gan gynnwys ein sianel linol bresennol.